This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

A am Anghenfil

  • £6.95
  • A am Anghenfil
  • ISBN: 9781845278281
  • Huw Aaron
  • Cyhoeddi: Medi 2021
  • Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 250x210 mm,

50 tudalen A am Anghenfil. B am Bwci-bo. Pwy arall fydd yn dod draw am de parti sgwn i? Cerdd hollol hurt a doniol gan yr artist Huw Aaron.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyrau a chylchgronau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? a Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n-Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth gan Elidir Jones ac a ddarluniwyd ganddo gategori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.

Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau oi lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel YouTube Criw Celf, gydai fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.

Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen Cer i Greu ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com