This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Casgliad o gerddi gan Ddysgwyr ar gfer Dysgwyr. Trefnwyd cyfarfod ym mhabell Nant Gwrtheyrn ar Faes Eisteddfod wrecsam gan wahodd rhai o fynychwyr y Nant sydd wedi ennill yn y Genedlaethol neu wedi dangos diddordeb mewn cerddi. Trefnwyd cwrs arbennig ar gyfer y maes hwn yn y Nant ym Medi 2025, gyda thri thiwtor a siaradwyr gwadd. Ffrwyth y cyfan yw’r gyfrol hon.
Mae dysgwyr yn ennill mwy na geiriau Cymraeg wrth ddysgu’r iaith. maen nhw hefyd yn defnyddio’r iaith fel allwedd i agor drysau nad oedden nhw’ n gwybod amdanyn nhw cyn hynny. Mae barddoniaeth Gymraeg yn enghraifft wych o hynny.
Dyma gasgliad o gerddi ar gyfer dysgwyr gan rai sydd wedi bod eu hunain ar y daith i ddysgu’r iaith. Mae’r elfen o ryfeddu at yr iaith ei hun yn amlwg iawn yn y casgliad hwn. Felly hefyd cerddi am wahanol gyfnodau hanesyddol neu yn trafod ambell bwnc llosg cyfoes. Mae natur a chadwraeth yn thema gref arall sy'n apelio atyn nhw, yn ogystal â cherddi sy'n cyflwyno cip ar sawl cynefin o fewn Cymru.
Cyfres Amdani - Llyfrau ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r llyfrau ar bedair lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Mae'r llyfr yma yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi gorffen y cwrs Uwch 1.
Golygydd: Siwan Tomos, Cyfarwyddwr Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn