This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Afon a'r Graig, Yr - Ceubyllau Afonydd Cymru

  • £14.00
  • £0.00
  • Afon a'r Graig, Yr - Ceubyllau Afonydd Cymru
  • ISBN: 9781845278564
  • Dewi Roberts, Hywel Griffiths, Stephen Tooth
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2022
  • Fformat: Clawr Caled, 200x240 mm, 180 tudalen

Lle mae afonydd yn llifo dros y graig, gall d?r a gwaddod gyda'i gilydd greu cerfluniau naturiol hardd a chywrain. Un o'r ffurfiau mwyaf trawiadol yw ceubyllau: pantiau lled-grwn wedi eu cerfio i welyau creigiog afonydd aflonydd yr ucheldir.

Gwybodaeth Bellach:

Maer ffurfiau yman allweddol yn y broses o greu rhai or elfennau afonol yr ydym yn eu trysori fwyaf rhaeadrau a cheunentydd ond maen nhw hefyd yn creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn ysbrydoli artistiaid a sgwennwyr ac yn creu llwyfannau ar gyfer chwedlau.

Gall ceubyllau, cerfluniau naturiol cysylltiedig âr dirwedd afonol ehangach ddenu ymwelwyr o bell ac agos, a chreu amgylchedd llesol in hiechyd corfforol a iechyd meddwl. Gan gyfeirio at enghreifftiau o geubyllau ar afonydd ar hyd Cymru ar byd maer llyfr hwn yn cyfuno gwyddoniaeth, y celfyddydau, hanes a diwylliant a ffotograffau trawiadol or tirlun er mwyn treiddio i ddyfnder yr elfennau cyfareddol ond diarth yma o dirlun ein daear.