This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Amser Da (Fferm Cwm Cawdel)

  • £6.00
  • £0.00
  • Fferm Cwm Cawdel: Amser Da
  • ISBN: 9781845278502
  • Gwennan Evans
  • Cyhoeddi: Ebrill 2022
  • Darluniwyd gan Lleucu Gwenllian
  • Fformat: Clawr Meddal, 190x135 mm, 40 tudalen

Dydi Ffion y ffermwraig ddim yn gallu mynd ar ei gwyliau, oni bai ei bod hi'n mynd â'r holl wartheg gyda hi. Does dim amdani felly ond gwyliau gwirion i bawb! Y tro hwn maen nhw'n mynd i ERYRI.

Bywgraffiad Awdur:

Daw Gwennan Evans o Ddyffryn Cothi'n wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i g?r a'i dau fab. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac fe ddilynodd drywydd Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ei hymchwil yno. Enillodd radd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ddoniol i blant, Iârgyfwng, yn 2017. Cyhoeddodd stori fer i'r arddegau yn y gyfrol Seren Wib a bydd ei Stori Tic Toc gyntaf i blant bach i'w chlywed ar Radio Cymru yn Hydref 2019. Ym mis Chwefror 2019, treuliodd wythnos yn Nh? Newydd ar gwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones. Mae Gwennan hefyd yn barddoni ac wedi ysgrifennu nifer o gerddi i blant ar gyfer sawl Stomp Plant.

Gwybodaeth Bellach:

Dewch gyda ni i ymuno efo Ffion, Fflei a'r gwartheg direidus wrth iddyn nhw geisio codi pabell ym Mhen Ll?n, hedfan ar zip world Bethesda a dringo mynydd uchaf Cymru! Y drydedd yn y gyfres boblogaidd Fferm Cwm Cawdel.