This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Anturiaethau'r Afanc

  • £8.99

Sut i dynnu sylw'r byd at yr argyfwng ym myd natur?

Mae criw o blant o Fannau Brycheiniog yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yr ateb!

Tasg ddigon syml yw cynnal protest mewn cwch a chainc ar afon Gwy. Ond mae mwy na physgod yn llechu o dan y dwr...

Ailymunwn a chriw Anturiaethau'r Brenin Arthur wrth iddyn nhw ddarganfod y gwirionedd am un o brif afonydd Cymru.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhfirysgolion Caergrawnt a Bangor, mae bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Mae'n awdur tair nofel hanesyddol - Dan Gysgod y Frenhines (2022), Y Castell ar y Dŵr (2023) ac Anturiaethau'r Brenin Arthur (2024).
Gwybodaeth Bellach:
Mae criw Anturiaethau'r Brenin Arthur ym mlwyddyn 10 erbyn hyn ac er bod Arthur wedi dychwelyd i'w ogof i gysgu a dim gobaith o ddod o hyd iddo eto, maent yr un mor awyddus ag erioed i dynnu sylw at yr argyfwng natur.
  • ISBN: 9781845279813
  • Awdur: Rebecca Thomas
  • Cyhoeddi: Awst 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 122 tudalen