This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9780863817878
- Cyhoeddi Gorffennaf 2002
- Fformat: Clawr Meddal, 210x149 mm, 280 tudalen
Cyfrol deyrnged i John Owen Huws (195?-2002), awdur toreithiog ar faterion yn ymwneud â llên gwerin, yn cynnwys detholiad o'i ysgrifau ar amryfal agweddau o'r maes a ymddangosodd mewn rhifynnau o Llafar Gwlad, ynghyd ag ysgrifau newydd gan awduron eraill. 66 llun du-a-gwyn.
Adolygiad Gwales
Pan fu farw John Owen Huws yn frawychus o sydyn yn 2001 collwyd un a fu, ymhlith pethau eraill, yn olygydd gweithgar a llwyddiannus y cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyhoeddir y gyfrol hon fel teyrnged iddo, ac y mae hanner y gyfrol yn cynnwys erthyglau poblogaidd gan awduron a gyfrannodd i’r cylchgrawn dan ei olygyddiaeth. Ceir yn yr hanner arall ddetholiad o’r ysgrifau a gyfrannodd ef ei hun i’r cylchgrawn dros y blynyddoedd.
Mae hanner John Owen Huws o’r gyfrol yn perthyn i hen draddodiad ymhlith astudiaethau llên gwerin, sef casgliad o ysgrifau byrion heb fod ag unrhyw thema benodol yn eu cydio wrth ei gilydd ar wahân i’w ddiddordeb cynhenid. Dyna oedd natur Ysten Sioned Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) a gyhoeddwyd yn 1894, ac yn wir gellir defnyddio is-deitl y gyfrol honno – ‘y gronfa gymysg’ i ddisgrifio’r ysgrifau hyn. Amrywia’r cynnwys o lên gwerin anifeiliaid i werthfawrogiad o glasuron dau arloeswr ym myd llên gwerin, sef Syr John Rhŷs a Myrddin Fardd. Ni chyfyngir yr ysgrifau i fyd hen bethau ychwaith: ceir ysgrifau ar y llên gwerin newydd honno sydd ynghlwm wrth y car a’r ffawd-heglydd, a gorffennir ei ran ef o’r llyfr gyda disgrifiad o’i ymweliad â mynyddoedd Nepal – profiad a adawodd argraff ddofn arno fel un a fagwyd ymhlith mynyddoedd Eryri.
Yn y deg ysgrif gan yr awduron eraill trafodir pynciau perthnasol i ddiddordebau John Owen Huws, megis cyfraniad Robert Morris sy’n gofyn sut fyd oedd hi yn y flwyddyn 1000 (gan ddilyn trywydd ysgrif olaf J.O.H. ar y milflwydd 2000). Arferion ynghlwm wrth y calendr ddaw dan sylw Jan Grendall (cesyg medi), T. Llew Jones (yr Wylmabsant) a Tecwyn Vaughan Jones (hel calennig). Mae’r defodau sy’n perthyn i’n ffynhonnau sanctaidd a drafodir gan Eirlys a Ken Lloyd Griffiths yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â swyddogaeth y merched a fyddai’n gwarchod y ffynhonnau hyn; ac arferion geni a datblygiad statws y fydwraig yw testun Catrin Stevens.
Amrywia’r gweddill o gerddi Cymraeg cerrig beddau Caerdydd i hanes stori iasoer a glywodd Towyn Jones pan oedd yn fachgen. Pwnc gogleisiol Gwyn Thomas yw pa oleuni a deflir ar y derwyddon gan Siamaniaid gogledd Asia a mannau eraill. Gwahanol yw natur ysgrif Robin Gwyndaf ar Lois Blake sy’n werthfawrogiad o arloeswraig dawnsio gwerin yng Nghymru, Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm. Gellir dweud yn hyderus y bydd darllenwyr Llafar Gwlad yn siŵr o fwynhau’r gyfrol deyrnged hon. Mae’n ddarllenadwy iawn a heb fod yn rhy drwm.
Trefor M. Owen