This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Atgofion drwy Ganeuon: Llawenydd heb Ddiwedd - Y Cyrff

  • £9.50
  • £0.00
  • Atgofion drwy Ganeuon: Llawenydd heb Ddiwedd - Y Cyrff
  • ISBN: 9781845276928 Owain Schiavone, Toni Schiavone, Y Cyrff
  • Cyhoeddi Awst 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Atgofion drwy ganeuon 'Y Cyrff'. Cyfeirir yn aml y dyddiau hyn fod caneuon Y Cyrff o Lanrwst yn yr 1980au a dechrau'r 1990au yn drac sain i genhedlaeth gyfan o ddilynwyr y Sin Roc Gymraeg. Ffrwydrodd eu cân anthemig, 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' i galon eu torf o ddilynwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau yn 1989.

Gwybodaeth Bellach:
Nid dim ond band oedd Y Cyrff, roedden nhwn llawer mwy na hynny i lawer iawn o bobl. Roedd Barry, Mark, Paul a Dylan, ac yn ddiweddarach Mark Kendall, yn wahanol ir mwyafrif o grwpiau roc Cymraeg yn y 1980au. Hogia dre Llanrwst oedden nhwn hytrach na gr?p oedd wedi ffurfio yn y Coleg ac roedden nhwn gyfan gwbl o ddifrif am eu cerddoriaeth.

Nid dim ond llyfr am hanes Y Cyrff ydyr gyfrol yma chwaith. Maer gr?p yn ganolog ir stori, ond mae hefyd yn astudiaeth o rai o themâu mawr cyfnod penodol a difyr yn hanes Cymru a thu hwnt gwleidyddiaeth, diwydiant, crefydd, cariad (?) a diwylliant cyfoes. Cawn weld hyn oll trwy lygaid, trwy eiriau caneuon ac yng nghwmni sain gr?p unigryw, dylanwadol ac ym marn nifer, y gorau erioed o Gymru. Bodoli yw yr ystyr...