This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Barti a Bwystfil y Môr

  • £7.99

Y nofel gyntaf mewn cyfres newydd wedi’i lleoli ar ynys yn y Môr Celtaidd oddi ar
arfordir gorllewin Cymru. Mae’n cyfuno straeon arfordir diddorol/cyfarwydd gyda gofal
am adar ac anifeiliaid. Mae elfen gyfoethog o gadwraeth dan yr wyneb.
Nofel wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac
i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn
gwneud i blant werthfawrogi byd natur a deall yr amgylchedd ar yr arfordir yn well –
ond hefyd yn magu cariad at lyfrau.

Mae mam Tia wedi cael swydd newydd fel milfeddyg ar ynys. Yno, mae llawer o
greaduriaid angen ei chymorth.Pan gaiff y mam Tia ei galw i helpu buwch sy’n sâl ar ynys gyfagos, mae storm yn codi
ac mae Tia’n gaeth ar yr ynys.
A all Tia ofalu am yr anifeiliaid sydd angen ei help yn y feddygfa? A beth yw’r creadur
rhyfedd sy’n cael ei olchi i’r traeth gan y storm.
Mae bywyd ar yr ynys yn llawn anturiaethau!

GILL LEWIS Bu’n gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur nifer o
nofelau i blant. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio
darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgylchfyd a gwarchod byd natur.

ELEN WILLIAMS Gwraig fferm o Lŷn sy’n gyn-athrawes, yn fam i dri o blant ac yn
olygydd ac addasydd llyfrau plant gyda Gwasg Carreg Gwalch. Mae eisoes wedi
addasu un o nofelau Gill Lewis: Galwad yr Alarch.