This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Brenin y Trenyrs

  • £6.95
  • £0.00
  • Brenin y Trenyrs
  • ISBN: 9781845277338
  • Pryderi Gwyn Jones
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 160 tudalen

ADIDAS, NIKE, PUMA, VANS, CONVERSE, REEBOK... Dyma stori am fachgen sydd wrth ei fodd efo trenyrs! Wir yr! Mae o'n ysu am gael pâr o'r trenyrs Adidas gorau sydd yn siop 'sgidiau fwyaf c?l y dre, Foot Locker.

Bywgraffiad Awdur: Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd Pryderi Gwyn Jones yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd ir canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach mae'n dad i ddwy o ferched. Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora'n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Brenin y Trenyrs yw ei nofel gyntaf.

Gwybodaeth Bellach: Coeliwch fi, nid tasg hawdd ydy cael trenyrs eich breuddwydion a hwythaun costio ffortiwn! Beth am gael job dydd Sadwrn? Dim gobaith caneri yn dair ar ddeg oed! Beth am berswadio dad fod y Gazelles sydd am ei draed ers dau ddeg tri mis a phedwar diwrnod yn rhy fach ac yn drewi fel toilet Yncl Roy ar fore Sul? Anodd iawn! A fydd ei ffrindiau yn gallu ei helpu i hel pres? Beth am y ferch sydd ar fin dod yn gariad iddo? Fydd ganddi hi syniadau? Cawn weld!