This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Bron Haul - Y Tyddyn ar y Mynydd/The Croft on the Moors

  • £7.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845273446
  • Catherine Owen, Lloyd Jones, Eurwyn Wiliam
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2011
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 152 tudalen
  • Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Ar ddydd Nadolig 1900, i groesawu\'r ganrif newydd i dyddyn Bron Haul ar fryniau Hiraethog, ganed merch fach o\'r enw Catherine i\'r teulu Griffith. Mae ei hanes hi yn deyrnged i ddarn bach o ucheldir corsiog - cartref syml, di-nod yng nghanol nunlle. Er na chafodd Bron Haul le yn ein llyfrau hanes, mae stori\'r tyddyn bychan hwn yn adlewyrchiad o frwydr ein cyndeidiau.

On Christmas Day, 1900, the birth of a baby girl ushered in a new century at Bron Haul, a small croft on the wild Hiraethog moors. Catherine\'s story is a tribute to a patch of peaty land in the uplands - a tiny, insignificant home in the middle of nowhere. It has never played an important part in history, yet it embodies the remarkable story of our forefathers.

Bywgraffiad Awdur:

Ganwyd Lloyd Jones yn Mryn Clochydd, Gwytherin ar gyrion Mynydd Hiraethog. Enillodd Wobr McKitterick gyda’i nofel gyntaf Mr Vogel yn 2004, ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007 am ei ail lyfr Mr Cassini. Cyhoeddwyd My First Colouring Book yn 2008, ac yn 2009 cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn yr iaith Gymraeg, Y Dŵr.

Gwybodaeth Bellach:
Ar ddiwedd ei hoes, ysgrifennodd Catherine ei hatgofion am ei phlentyndod ym Mron Haul, sy’n grynodeb o’r bywyd a ffurfiodd y Gymru sydd ohoni heddiw.

Mae gan yr awdur Lloyd Jones yntau gysylltiad agos â’r lle, ac i gwblhau’r portread o Fron Haul ceir ysgrif gan yr hanesydd cydnabyddedig y Dr Eurwyn Wiliam.

Bydd holl elw’r gyfrol yn mynd i goffrau elusennau diwylliannol lleol.