This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Pan mae athrawes yn ei thridegau yn etifeddu bwthyn ar ôl hen fodryb iddi, mae'n teithio yno i gael golwg arno. Caiff ei siomi o ddarganfod ei fod bron yn furddun ... a bod hanes i'r tŷ sy'n bygwth chwalu ei bywyd. Nofel sy'n plethu hanes a'r presennol gyda dogn o'r goruwchnaturiol.
Nofel sy'n plethu'r gorfffennol, y presennol a'r goruwchnaturiol.
- ISBN: 9781845279639
- Cyhoeddi: Rhagfyr 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 248 tudalen
Adolygiad gan Caryl Morris Jones
Mae Bron y Nant yn stori ddyfeisgar sy’n cyfuno dau fyd, dau gyfnod a dau fywyd, gan wneud hyn oll mewn ffordd fedrus iawn sy’n dal sylw’r darllenydd, er ei bod yn eitha cymhleth. Hanes dwy ferch sydd yma, mewn dau gyfnod gwahanol iawn, ac arweinia amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y ddwy at ddwy daith annisgwyl. Dilynwn y merched hyn wrth iddynt ddarganfod y gwir resymau am eu teithiau, a gwelwn eu datblygiad wrth i’w hamgylchiadau newid. Stori yn llawn troeon, sy’n cadw’r darllenydd yn gaeth, ac yn eich gadael yn methu dyfalu beth fydd nesa.
Un o fy hoff elfennau o’r stori yw’r cydrediad rhwng bywyd Hannah, y ferch yn 1872, ac Esther, y ferch yn 2017. Mae stori’r ddwy mor wahanol ar un llaw, ond eto yn dilyn yr un trywydd. Yn gelfydd iawn, mae’r awdur yn dangos sut mae sefyllfa merch wedi newid dros y blynyddoedd – mae Hannah yn gaeth i ddymuniadau pobl eraill, yn cychwyn ar daith annisgwyl i weini ar foneddiges, ac Esther, mewn cymhariaeth, yn cychwyn ei thaith ar ei phen ei hun, yn rhydd i wneud fel y dymuna, gyda’r gallu i wneud ei phenderfyniadau ei hun. Er hyn, nid yw’r un o’r ddwy yn gwybod beth sy’n aros amdanynt yn y pen draw, ac er fod yr amgylchiadau yn wahanol, mae tebygrwydd yn eu straeon. Dengys y nofel sut mae gwerthoedd wedi newid, a sut mae gwerth bywyd merch wedi cynyddu – mae Hannah yn cael ei bwrw o’r neilltu y munud mae hi’n dod yn anghyfleus, tra mae Esther yn cael ei gwarchod a’i charu. Mae’r ysgrifennu’n gelfydd, gyda golygfeydd tyner yn cyfleu yn effeithiol y cariad rhwng y cymeriadau. Un o fy hoff gymeriadau yw Harri, tad Hannah, a chafodd ei olygfeydd o effaith fawr arnaf i. Gallwn deimlo ei hapusrwydd, ei ansicrwydd a’i boen, er mor fach yw ei ran yn y stori. Nofel yw hon a wnaeth i mi deimlo nifer o emosiynau, ac a wnaeth i mi grio mewn sawl rhan.
Un o’r agweddau wnaeth fy siomi oedd tebygrwydd yn niwedd stori Esther a Hannah. Er bod y nofel yn dangos gwahaniaethau enbyd rhwng y ffordd y cafodd y ddwy eu trin, mae diweddglo stori’r ddwy yn debyg, er bod llawer mwy o opsiynau ar gael i Esther yn 2017. Ond efallai mai dyma yw’r bwriad: dangos bod risg ac anawsterau yn dal yn rhan o fywyd llawer o ferched hyd heddiw.
Mae Bron y Nant yn nofel afaelgar sy’n cydio yn y darllenydd ac yn cadw’r sylw trwy gydol y stori. Mae’n llyfr fyddai’n apelio at lawer o ddarllenwyr gwahanol, o ramant i ddirgelwch. Be sy’n gwneud y nofel yn unigryw yw’r gallu i blethu’r gorffennol a’r presennol heb or-wneud, a throi’r stori’n chwerthinllyd. Mae’r teimladau’n amrwd, ac yn dod a’r holl stori’n fyw.
Nofel ddyrys a meistrolgar iawn fydd yn aros yn fy nghof am amser hir.