This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Saunders, Kate, y Blew ... Hywel Teifi, Ffion Dafis, Eric Ngalle ...Dyma rai yn unig o’r miloedd sydd wedi ymddangos ar lwyfan y Babell Lên.Byth ers 1920 mae wedi bod yn gartref i lenorion, i feirdd, ac i lawer o bobl ddiddorol eraill ar faes yr Eisteddfod, ond dyma’r tro cyntaf i neb geisio crynhoi hanes cyfoethog y lle hwn mewn cyfrol.Yn ôl gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol: ‘Mae’n debyg mai Y Babell Lên yw’r adeilad enwocaf ar y Maes, ar ôl y Pafiliwn’.Yma cewch wybod pam. O’r ymryson i’r darlithiau, o’r beirniadu i’r darlledu, o’r stiwardiaid i gynllun y lle ei hun, dyma flas ar hanes y Babell Lên.
Mae Ifor ap Glyn yn hanesydd, yn fardd ac yn gynhyrchydd teledu. Mae ei raglenni yn cynnwys ‘Canrif o’r Babell Lên’ fu’n fan cychwyn i’r gyfrol hon.
- ISBN: 9781845277970
- Cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2026
- Dyddiad ar gael: 22 Mehefin 2026
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 150 tudalen