This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Castell ar y Dŵr, Y
- ISBN: 9781845279233
- Rebecca Thomas
- Cyhoeddi: Gorffennaf 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 300 tudalen
'Fe wna i adeiladu castell yma i ti, i dy gadw'n ddiogel am byth.' Teyrnas beryglus yw Brycheiniog y ddegfed ganrif mor beryglus fel bod rhaid cuddio chwaer y brenin o'r golwg. Nid yw Elwedd wedi cael gadael y castell ar y dŵr am ddeuddeng mlynedd. Ar yr ynys, mae'n ddiogel.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caer-grawnt a Bangor, mae bellach yn ymchwilydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Y Castell ar y Dŵr yw hail nofel.
Gwybodaeth Bellach:
Ond mae gan bawb gyfrinachau. Mae pawb yn dweud celwydd. A gydag un ymwelydd annisgwyl, mae bywyd tawel a threfnus Elwedd yn newid am byth. Wrth geisio darganfod y gwir am y castell ar y dŵr, daw Elwedd i ganol brwydr am Frycheiniog gyfan.