This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ceiliog Dandi

  • £8.00
  • £0.00
  • Ceiliog Dandi
  • ISBN: 9781845277444
  • Daniel Davies
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 214 tudalen

Dafydd ap Gwilym, un o feirdd gorau ein cenedl ... ond oedd e?

Bywgraffiad Awdur: Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glynd?r (2007), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois! (2016) ac Arwyr (2018). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth Yr Eumenides (cyhoeddwyd 2017) yn agos ir brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.

Gwybodaeth Bellach: Gan fy mod i, Dafydd ap Gwilym, yn un o feirdd gorau Cymru ac yn bwysicach, wrth gwrs, yr enwocaf rydych chin si?r o fod yn awyddus iawn i wybod mwy amdanaf.Dyma i chi felly ran gyntaf fy hunangofiant, lle rwyn dinoethi rhai om cyfrinachau mwyaf ffrwydrol: Fy giamocs carwriaethol gyda Morfudd a Dyddgu · Y gwir am lofruddiaeth y clerwr, Rhys Meigen · Fy ymddygiad gwrol yn y frwydr enwog rhwng Lloegr a Ffrainc yn Crécy · Fy mherthynas dymhestlog gydar beirdd Iolo Goch a Madog Benfras · Y rhan allweddol a chwaraeais yn nhalwrn rhyngwladol cyntaf Ewrop. Rydw i hefyd yn rhannu fy marn am farddoniaeth, athroniaeth, cariad, rhyfela a mwy ... llawer mwy. Heresi lwyr. Henry de Gower, Esgob Tyddewi Llosgwch y llyfr ar awdur Nawr. Pab Clement VI Llyfr eithaf boddhaol. Lluniau digon derbyniol. Madog Benfras, bardd