This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cerddi Map yr Underground

  • £5.00
  • £0.00
  • ISBN: 9780863817540
  • Awdur: Ifor ap Glyn
  • Cyhoeddi Tachwedd 2001
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 128 tudalen

Casgliad o 67 o gerddi ffraeth a thelynegol, caeth a rhydd y prifardd Ifor ap Glyn, yn cynnwys nifer o ddilyniannau sy'n darlunio nifer o groesffyrdd arwyddocaol ym mywydau dysgwyr y Gymraeg yn ogystal â chroesffyrdd ym mywyd y bardd ei hun, gyda nifer o'r cerddi wedi eu cyfansoddi ar gyfer teithiau barddol diweddar. 36 ffotograff du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
'Cymru, Lloegr a Llanrwst' oedd un o anthemau'r grŵp dylanwadol Y Cyrff, a esblygodd yn ddiweddarach yn Catatonia, ac fel bardd sydd â gwreiddiau un ochr i'w deulu yn nhre farchnad Llanrwst, mae'r drindod yma'n ganolog i waith y Prifardd Ifor ap Glyn hefyd, o'i addasu ychydig yn 'Gymru, Llundain a Llanrwst' efallai.

Fel y mae'r teitl yn awgrymu, mapio’r berthynas driphlyg yma a wna'r bardd yn ei gyfrol ddiweddaraf. Fel un a fagwyd yn Llundain yn rhugl ei Gymraeg, mae Ifor wastad wedi edrych ar Gymru a Chymreictod gyda llygad a llais y dieithryn cyfarwydd. Mae ei gerdd wych 'Ciwcymbars Wolverhampton' yn crisialu’r olwg wahanol yma ar yr hyn yw bod yn Gymro mewn canrif newydd. I raddau, mae mwyafrif helaeth y cerddi yn y gyfrol hon yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn yw bod yn Gymro Cymraeg mewn byd sy'n fwyfwy rhyngwladol a rhyng-ddiwylliannol. Ac mae ei fagwraeth mewn dinas gosmopolitan fel Llundain yn rhoi'r hyder iddo fentro i ganol cymhlethdodau ein cyfnod yn drwyadl Gymraeg.

Fel gyda'r 'underground' ei hun, mae sawl lein yn rhedeg drwy fap Ifor – lein sy'n ei arwain yn ôl i Ysgol Gymraeg Llundain; lein sy'n ymdrin â'r Gymru gyfoes, a Chymru ei blant; lein ei bryddest yn myfyrio ar ei berthynas â Chaerdydd a Llanrwst; lein sy'n adlewyrchu ei ddiddordeb byw yng ngwleidyddiaeth Cymru a'r Gymraeg; lein o rwystrau dwys a difyr, cyffredin ac anghyffredin; lein o gerddi caeth; lein o gyfieithiadau, a lein o gyfarchion i dylwyth a chyfeillion.

I mi, mae dau ddylanwad wedi miniogi crefft ac awen Ifor: ei brofiad hir erbyn hyn o berfformio'i gerddi'n gyhoeddus, a hefyd ei ddeallusrwydd craff sy'n medru troi pob math o ffeithiau a mân-hynodion yn gerddi crafog.

Enghraifft wych o'r gallu yma i droi’r manylyn mwyaf amherthnasol yr olwg yn gerdd bwrpasol, drawiadol, yw'r gerdd 'Atgofion Glaslanc' o'r gyfres o gerddi a luniwyd i'w perfformio fel rhan o'r sioe 'Lliwiau Rhyddid'. Sbardun y gerdd yw clywed 'nad yw pysgod trofannol . . . yn lliwgar yn eu llygaid eu hunain!' Ac fel rhan o 'sioe', mae'r gerdd hon, a nifer helaeth o gerddi'r gyfrol, yn arbennig 'y mawr a'r bach', sy'n ymdrin â thranc yr iaith Gernyweg yn null sgets 'parot marw' Monty Python, yn dangos crefft a gallu Ifor fel perfformiwr cerddi doniol a bachog, ar eu gorau.

Ar lwyfan, ac nid mewn cyfrol, y mae cerddi o'r fath ar eu gorau, ond eto mae dawn Ifor i chwarae â geiriau a chysyniadau yn ei gwneud yn werth i ni fynd yn ôl a darllen ei gerddi llafar er mwyn gwir werthfawrogi'r grefft. Mae'n drawiadol i mi bod eiliadau mwyaf telynegol y gyfrol yn y cyfieithiadau. O nabod Ifor, mae'n paratoi'r ffordd ar gyfer y cam nesaf ar ei daith farddol. Studiwch y map.

Iwan Llwyd