This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Cyfres Amdani- Chwedlau Cymru: Y Mor
- ISBN: 9781845278557
- Fiona Collins
- Cyhoeddi: Mawrth 2023
- Golygwyd gan Nia Parry
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 72 tudalen
Dyma chwe chwedl o Gymru am y mor. Maen nhw'n chwedlau enwog yn hanes Cymru - fel chwedl Cantre'r Gwaelod a hanes Bendigeidfran yn croesi'r mor i Iwerddon o'r Mabinogi.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen yn sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n chwedleuwr profiadol ac yn gyn-enillydd Dysgwr y Flwyddyn a dyma'r ail lyfr yn y gyfres. Mae eisoes wedi cyhoeddi Chwedlau Cymru: Ceffylau. Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded, darllen a nofio.
Gwybodaeth Bellach:
Mae un o straeon Shemi Wâd yma yn ogystal â hanes môr-forwyn o Landudoch. Cawn ddarllen am Beuno Sant a chael hanes Eluned Morgan a anwyd ar y fordaith i'r Wladfa yn Ariannin ac a fu'n teithio'n ôl a blaen rhwng Cymru a Phatagonia ar hyd ei hoes.
Mae'r chwedlau'n dod o'r Borth ger Aberystwyth, Harlech, Wdig yn Sir Benfro, Clynnog yng Ngwynedd, Llandudoch yng Ngheredigion ac o Batagonia. Cyfres Amdani - addas i ddysgwyr Mynediad