This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Chwyldro ym Myd Darlledu

  • £9.99
  • Chwyldro ym Myd Darlledu
  • ISBN: 9781845279561
  • Cyhoeddi: Medi 2024
  • Golygwyd gan Siân Sutton
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 140 tudalen

Yn 1974 roedd 'chwyldro yn yr awyr' yn ardal Abertawe wrth i orsaf radio annibynnol gyntaf Cymru ddechrau darlledu ar Fedi 30. Sain Abertawe oedd y seithfed orsaf annibynnol drwy Brydain a'r gyntaf erioed i ddarlledu yn ddwyieithog.

Gwybodaeth Bellach:
Roedd y rhaglenni i'w clywed ar aelwydydd de-orllewin Cymru, o Ben-y-bont ar Ogwr i Sir Benfro, yn y cyfnod cyn sefydlu BBC Radio Cymru ac S4C ar y teledu.
Hanner can mlynedd yn ddiweddarach mae cyfle i hel atgofion gyda'r bobol a greodd y gwasanaeth newydd sbon oedd â 13% o'r cynnwys yn Gymraeg.
A chawn wybod am y croeso ymhlith gwrandawyr oedd yn clywed eu hiaith a'u tafodiaith ar y radio am y tro cyntaf.
Dros y blynyddoedd mae nifer o ddarlledwyr a newyddiadurwyr wedi cael eu cyfle cyntaf yn Sain Abertawe ac yn diolch am gael bod yn rhan o wasanaeth allweddol yn hanes darlledu yng Nghymru.