This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Copaon Cymru - 48 o Deithiau Mynydd

  • £15.00
  • £0.00
  • Copaon Cymru - 48 o Deithiau Cerdded
  • ISBN: 9781845275716
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Golygwyd gan Eryl Owain
  • Fformat: clawr caled, 210x210mm, 200 tudalen

Mwynhewch yr ucheldiroedd hyn trwy ddilyn trywydd y 48 o deithiau - ym mhob cwr o\'r wlad - a gyflwynir yma gan aelodau Clwb Mynydd Cymru, ynghyd â mapiau lliw, lluniau nodedig a phytiau o wybodaeth ddiddorol i\'ch ysbrydoli.

Prin bod unrhyw wlad arall o\'r un maint â chymaint o fynydd-dir amrywiol; o gribau creigiog Eryri i fynyddoedd goseiddig Meirionnydd ac o unigeddau\'r canolbarth i esgeiriau trawiadol y Bannau, mae gan Gymru gymaint i\'w gynnig.  Mwynhewch yr ucheldiroedd hyn trwy ddilyn trywydd y 48 o deithiau - ym mhob cwr o\'r wlad - a gyflwynir yma gan aelodau Clwb Mynydda Cymru, ynghyd â mapiau lliw, lluniau nodedig a phytiau o wybodaeth ddiddorol i\'ch ysbrydoli.

Ers ei sefydlu yn 1979, mae Clwb Mynydda Cymru wedi tynnu\'r cerddwyr Cymraeg at ei gilydd i grwydro\'r mynyddoedd,, gan ddysgu am y grefft ac am gynefinoedd newydd wrth fwynhau\'r gwmniaeth ar y teithiau.  O blith yr aelodau y daeth cyfranwyr y teithiau unigol a nifer helaeth o\'r lluniau trawiadol.  Mae\'n gyfrol sy\'n ddathliad o\'n mynyddoedd ac sy\'n estyn croeso i bawb werthfawrogi eu gogoniant.

Felly darllenwch a mwynhewch ond, yn fwy na dim, ewch allan a cherddwch!