This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Casgliad o daith deuluol a hanesyddol Dwynwen Jones, Dyffryn Banw.
Roedd Dwynwen Jones, gynt o'r Parc, Llangadfan yn gymeriad cwbl unigryw ac yn un a fu'n allweddol i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw ar hyd ei hoes. Roedd hi'n gerddor, yn arbenigwr cerdd dant, yn llenor ac yn warchodwr diwylliant a hanes heb ei hail. Roedd hi hefyd yn fodryb annwyl iawn i Siân James.
Roedd gan Dwynwen gwpwrdd derw arbennig yn llawn o hen lyfrau brau a phapurau rhydd, cerddoriaeth a hanesion teulu. Rhannodd ei gynnwys i gyd â Siân, a aeeth ati i ddidoli'r deunydd a'i gyflwyno yn y gyfrol hon.
Y canlyniad yw casgliad o lên gwerin a thrysorfa o ddiwylliant lleol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
- Fformat: clawr meddal
- Awdur: Siân James
- ISBN: 9781845248246
Yr Awdur: Siân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif arloeswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Cana’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac mae’n gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd, ac fe’i perchir fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn, rhyddhawyd deg albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol, a gwmpasa’n emosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin i golled a’r byd ysbrydol.
Yn enedigol o bentref Llanerfyl yn yr hen Sir Drefaldwyn, bu Siân yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol o oedran cynnar iawn. Dechreuodd ganu’r piano yn 6 oed, cyn dod o hyd i’w llais wrth y delyn yn 11 oed. Tra’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion fe’i hysbrydolwyd gan ei hathrawes telyn, Frances Môn Jones i ddechrau arbrofi gyda threfniannau o ganeuon gwerin i’r llais a’r delyn. Aeth ymlaen i wyntyllu ei chariad at gyfansoddi wrth astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Mae hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar lwyfannau Cymru a theledu Cymraeg, gan gynnwys sioeau megis Enoc Huws a Llyfr Mawr y Plant; cyfresi megis Pengelli, Iechyd Da, Byw Celwydd; a’r ffilm Tylluan Wen. Bu’n arwain Parti Cut Lloi am gyfnod o ugain mlynedd – parti meibion a sefydlwyd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, 2003. Rhyddhawyd dau CD o’u gwaith hwythau ar label Recordiau Bos, sef Henffych Well, ac Y Dyn Bach Bach.
Mae ei hanturiaethau cerddorol diweddaraf yn cynnwys y grŵp Pedair, a’r ddeuawd biano Sonant.