This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cymru ar Stampiau'r Byd

  • £6.95
  • £0.00
  • Cymru ar Stampiau'r Byd
  • ISBN: 9781845276720
  • Twm Elias, Dafydd Guto
  • Cyhoeddi: Chwefror 2021
  • Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 122 tudalen

Maer gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd ir patrwm gwleidyddol drwyr byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Gall casgliad da o stampiau fod yn llyfr hanes a daearyddiaeth penigamp.

Gwybodaeth Bellach:

Cyhoeddwyd stampiau gan rai cannoedd o wledydd mawr a bach ymhob cwr o'r ddaear erbyn hyn rai ohonynt yn ddim mwy nag ynysoedd bychain llai o faint nag Ynys Môn. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd i'r patrwm gwleidyddol drwy'r byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Ond beth am GYMRU? Wrth ddarllen y gyfrol hon maen bosib y byddwch yn rhyw feddwl pam nad oes gennym ni stampiau post ein hunain? Yr unig beth sydd gennym yw stampiau rhanbarthol digon di-nod ac ambell stamp coffa mewn cyfresi Prydeinig. Er mor amharod fu'r sefydliad Prydeinig i gynnwys elfennau Cymreig ar eu stampiau e.e. Cofio Hedd Wyn 2017 mae ambell stamp (mewn sawl gwlad) yn adrodd stori neu'n cyflwyno cysylltiad Cymreig. Maen debyg mai un o'r stampiau prinaf a drutaf sydd â chysylltiad Cymreig iddo yw stamp 15c, Abraham Lincoln, 1867 or Unol Daleithiau, sydd yn werth rhyw £200,000.

Mae mwy i'ch synnu ach difyrru yn y casgliad hwn. Casgliad, gobeithio, a welwn yn tyfu'n eithriadol pan fydd gan Gymru'r hawl i gyhoeddi ei stampiau annibynnol ei hun. Wedi'r cyfan os gall ynysoedd megis Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw gyhoeddi stampiau deniadol, a gwneud elw sylweddol ohonynt, pam na all Cymru? Bu'r stampiau o fudd mawr iddynt i hyrwyddor economi a thwristiaeth ac yn gyfrwng addysgiadol pwysig i gynyddu ymwybyddiaeth yr ynyswyr hen ac ifanc o'u treftadaeth gyfoethog.