This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Daeth Dydd

  • £8.99
Casgliad o gerddi sy'n cynnwys cerddi Etholiad Mai 2026, cerddi'r clo a nifer o gerddi coffa i gyfeillion nodedig.

Bywgraffiad Awdur

Dyma'i seithfed casgliad o gerddi i oedolion; ef hefyd oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn 2000-01 ac mae'n awdur a golygydd dros 20 o lyfrau barddoniaeth i blant a phobl ifanc.

Adolygiadau

Roedd Etholiad Senedd Cymru ym Mai 2026 yn ddaeargryn gwleidyddol. Nid yw'n ormodiaith dweud bod oes arall wedi dechrau yn hanes y wlad. Dyma gyfnod lle bydd Cymru yn defnyddio'r pwerau sydd ganddi yn llawn – ac yn hawlio mwy o rym i hunanlywodraethu – er mwyn gwireddu'r weledigaeth sydd ar gyfer dyfodol llewyrchus i'w phobl a'i diwylliant.
Mae cerddi'n dathlu hyn yn y casgliad hwn, ond hefyd yn talu teyrnged i ganrif o waith caled ac ysbrydoledig gan y cenedlaethau sydd wedi dring'r llwybr hwn o'n blaenau. Mae cerddi am y cyfnod clo a cherddi coffa i nifer o gyfeillion yn cael eu cynnwys yn ogystal.