This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dan Warchae

  • £9.99

Achos cythryblus arall i’r Ditectif Jeff Evans yn nhref arfordirol Glan Morfa – y bymthegfed nofel dditectif i John Alwyn Griffiths ei hysgrifennu.

Edrych tu mewn

Broliant

Mae ceiswyr lloches yn cael eu lletya mewn hen wersyll yn perthyn i’r fyddin ar gyrion Glan Morfa, ac mae protestiadau yn lleol ynghylch y sefyllfa. Pan gaiff merch ifanc leol ei threisio mae’r amheuaeth yn disgyn yn syth ar y tramorwyr, a chynyddu mae’r tensiwn yn y gymuned. Ceisia Jeff Evans a gweddill plismyn Glan Morfa lonyddu’r dyfroedd, ond yna caiff corff un o swyddogion diogelwch y gwersyll ei ganfod...

Awdur

Mae John Alwyn Griffiths yn enedigol o Fangor, ond mae bellach yn byw ym Môn. Mna eweid ysgrifennu hunangofiant, Pleserau’r Plismon, a phedair ar ddeg o nofelau ditectif.

Lleoliad/cynulleidfa

Mae gan yr awdur gynulleidfa eang eisoes, a bydd y nofel hon yn addas iddyn nhw a darllenwyr newydd.

Adolygiad gan Marlyn Samuel

Teg yw deud bod John Alwyn Griffiths yn un o’n hawduron mwyaf cynhyrchiol yn y genre nofelau ditectif Cymraeg. Ers blynyddoedd bellach, cyn y Nadolig, mae yna hen edrych ymlaen am nofel newydd gan yr awdur. Yn ei nofel ddiweddaraf, Dan Warchae, y bymthegfed yn y gyfres ynglŷn â’r ditectif Jeff Evans, ni fydd ei ddilynwyr yn cael eu siomi.

Fel mae un cymeriad yn y nofel yn ei ddatgan sy’n wir, “ Mae ardal Glan Morfa i weld fel tasa hi’n fagnet i droseddau treisgar.” Dim gormodiaith ydi deud hynny, ac unwaith eto mae Jeff Evans yn ffeindio’i hun yn ei chanol hi.

Cefndir y nofel ydi bod yr hen wersyll sy’n perthyn i’r fyddin ar gyrion tref Glan Morfa yn cael ei defnyddio fel llety ar gyfer ceiswyr lloches. Achosa hyn gryn dyndra a gwrthdaro yn y dref gyda llu o brotestiadau yn lleol ynghylch y sefyllfa. A phan geir ymosodiad ar ferch leol, mae’r amheuaeth yn disgyn yn syth ar y tramorwyr ac mae’r tensiwn yn cynyddu. Mae Jeff Evans a gweddill plismyn y dref yn ceisio tawelu’r dyfroedd ond mae’r sefyllfa’n gwaethygu pan mae corff un o swyddogion diogelwch y gwersyll yn cael ei ganfod.

Fel yn ei nofelau blaenorol, mae John unwaith eto yn trin a thrafod materion a phroblemau cyfoes ac amserol sy’n digwydd yn y byd go iawn. Y tro hwn effaith ceiswyr lloches yn symud i mewn i’r ardal ac effaith hynny ar y gymuned a geir. Ymdrinnir hefyd â’r broblem gynyddol o gyffuriau anghyfreithlon sy’n dod yn fwy a mwy o broblem yn ein cymunedau.

Os nad ydych chi wedi darllen y nofelau eraill, peidiwch â phoeni, mae’r nofel yma’n sefyll yn gadarn ar ei thraed ei hun. Mae’r awdur yn cyflwyno digon o gefndir i ni am y cymeriadau sy’n ailymddangos . Ac ydi, dwi’n falch o ddweud fod Nansi’r Nos yn ymddangos yn y nofel yma hefyd.

Fel cyn-dditectif ei hun, mae gan John adnabyddiaeth drylwyr o ddulliau'r heddlu o weithredu ac mae hynny’n rhoi hygrededd i’r stori. Mae’r nofel yn symud yn ei blaen yn rhwydd ac yn ddarllenadwy iawn a’r penodau byr yn cadw diddordeb y darllenydd .

Ceir sawl tro a llinyn i’r plot ac mae pob un yn dod at ei gilydd yn gelfydd ar ddiwedd y nofel. Ac un peth dwi yn eich sicrhau chi: ar ôl i chi ddarllen y diweddglo mi fyddwch chi’n ysu i John gyhoeddi nofel arall yn y dilyn hynt y ditectif Jeff Evans.

Mae hon unwaith eto’n glincar, yn llawn trais, dirgelwch a chyffro. Yn wir, mae John yn feistr ar y nofel dditectif Gymraeg. Byddai ei nofelau’n addasu’n wych ar gyfer cyfres dditectif apelgar ar S4C.  Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

  • ISBN: 9781845248024
  • Awdur: John Alwyn Griffiths 
  • Cyhoeddi:  Tachwedd 2026