This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Diwrnod Prysur

  • £6.95
  • £0.00
  • Diwrnod Prysur
  • ISBN: 9781845279295
  • Huw Aaron
  • Cyhoeddi: Medi 2023
  • Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
  • Fformat: Clawr Meddal, 230x210 mm, 30 tudalen

Llyfr gair a llun syml sy'n cyflwyno berfau i blant ifanc, ac yn adlewyrchu beth fyddai 'diwrnod prysur' i blentyn bach.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyfrau a chylchgronau yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? ac Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer Gwobr Tir na nOg yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth gategori plant a phobl ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.

Sefydlodd y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a cafodd 11,000 o gopiau oi lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, eu dosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel YouTube Criw Celf, gydai fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.

Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen Cer i Greu ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain.

Gwybodaeth Bellach:

Mae'r gyfrol yn cynnwys lluniau o amrywiaeth o blant bach yn gwneud pethau megis deffro, gwisgo, darllen, dawnsio; yr holl bethau fydd plant bach yn eu gwneud yn ystod y dydd.