This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Drws Anna

  • £8.50
  • £0.00
  • Drws Anna
  • ISBN: 9781845279110
  • Dafydd Apolloni
  • Cyhoeddi: Mawrth 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen

Nofel uchelgeisiol gan awdur ffuglen newydd: nofel sy'n dadansoddi hunaniaeth mewn modd athronyddol ac yn cwestiynu cof a chyfeillgarwch i'r eithaf.

Gwybodaeth Bellach:

Cyfieithydd yw Iestyn Llwyd yn byw ac yn gweithio mewn fflat fach mewn tref Gymreig. Pan gaiff gais gan ddyn dieithr i gyfieithu ei atgofion i'r Gymraeg mae'n dechrau ymgolli yn yr hanes: caiff ei daflu i fywyd hedonistaidd Paris a'i gyflwyno i ferch lesmeiriol, angerddol o'r enw Anna, a Joni Zlatko, cymeriad lliwgar sy'n credu mai gwin a heulwen ydi'r ateb i broblemau'r byd.

Tynnir Iestyn fwyfwy i hanes Anna, Joni a'r awdur dirgel: pwy ydi o, a pham y bu iddo fynnu mai Iestyn oedd yn cyfieithu ei stori?