This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Giaman Gasgan ac Ellyll Erchyll (Gwalch Balch 4)

  • £3.99
  • £0.00
  • Awdur: Rose Impey
  • Cyhoeddi Hydref 2005
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal

Dwy stori mewn un gyfrol. Mae'r gyntaf yn adrodd hanes cath dew a aeth yn dewach ac a fwytaodd bopeth o fewn cyrraedd. Mae'r llall yn adrodd hanes tri brawd diog a aeth ar orchymyn eu tad i weithio i'r coed. Cafodd ddau ohonynt eu brawychu gan yr ellyll, ond safodd y trydydd i ymladd y drwg.

Adolygiad Gwales
Llyfr neu nofel llawn hwyl sydd yma ar gyfer plant tua saith oed, efallai. Mae hon yn fargen – dwy stori mewn un llyfr! Mae'n syniad ardderchog i ddenu plant i ddarllen nofel, mi dybiaf, gan nad oes yn rhaid iddyn nhw ddarllen swmp er mwyn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth. Mae’r naid o ddarllen llyfrau syml i ddarllen nofel yn gallu bod yn glamp o naid i rai plant, a dyma’r adeg pan mae rhai ohonyn nhw’n penderfynu bod darllen yn ddiflas. Mae’r nofel fach yma’n bendant yn mynd i helpu yn ystod y cam enfawr hwnnw.

Dwy stori. Un yn adrodd hanes y gath farus dew a aeth yn dewach a thewach nes byrstio fel balŵn. Digon o hiwmor. Iaith yn ymestyn dealltwriaeth plant heb lethu mwynhad. Mae cyfle yma i ddatblygu sgiliau cofio a rhoi mewn trefn – pwy neu beth fwytodd y gath ar ôl bwyta’r ffermwr? Mae gorfwyta'n bwnc llosg ar hyn o bryd – mae cyfle yma i drafod hynny. Hoffais y pennill ar ddiwedd y stori – eto, pennill syml y gall y plant ei ddeall a’i efelychu petai rhywun am iddyn nhw ddatblygu sgiliau ysgrifennu.

Yr ail stori. Stori am ddyn a chanddo dri mab diog. Hoffais y defnydd o iaith yn y stori yma hefyd, e.e. ‘a thri mab heb fymryn o waith yn eu crwyn’. Mae’r tri mab yn cael eu gyrru i dorri coed. Daw'r ddau gyntaf adref heb gyflawni eu gwaith ar ôl i’r ellyll drwg a chas eu dychryn. Mae’r trydydd yn dod yn feistr corn ar yr ellyll. Ddyweda i ddim mwy – darllenwch y stori. Hen syniad yn cael ei drin mewn ffordd gyfoes – y gwan yn ennill y dydd. Mae digon o waith trafod yma hefyd os ydy rhywun am wneud hynny.

Y peth gorau am y llyfryn bach yma ydy y gall plentyn ei ddarllen a’i fwynhau ar ei ben ei hun a chael mwyniant o wneud hynny. Mi fydd hwn yn hosan Dolig fy nith saith oed eleni!

Afryl Davies