This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gororion

  • £9.99
  • £0.00
  • Gororion
  • ISBN: 9781845245634
  • Angharad Price
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2023
  • Fformat: clawr meddal 215 x 138mm, 234 tudalen

Wyth o wibdeithiau llenyddol sydd yma, ar rheinyn dilyn trywyddau amrywiol rhwng Cymru a chyfandir Ewrop. Cawn ein tywys ar daith o Fenis i ynys Gwales, ac o gefn gwlad Ffrainc i ynys Paradwys, yng nghwmni nofelwyr cynhyrfus. Anturiwn ar yr Orient Express yng nghwmni T. H. Parry-Williams. Awn i fyfyrio am Gymru ar iaith Gymraeg mewn gwinllan ar gyrion Rhufain, a chawn ddarganfod dolen gyswllt annisgwyl rhwng sir Drefaldwyn a Frankfurt am Main. A phwy, tybed, oedd yr Iseldirwr angerddol a ffolodd ar un o gymunedau bach Eryri ar ddechraur ugeinfed ganrif? Dyma rai or cysylltiadau hynod sydd iw canfod rhwng cloriaur gyfrol hon, wrth iddi godi cwr y llen ar berthynas gyfoethog llên Cymru ac Ewrop erioed.

Bywgraddiad Awdur:

Mae ANGHARAD PRICE yn awdur a beirniad llenyddol. Enillodd ei nofel, O! Tyn y Gorchudd, y Fedal Ryddiaith yn 2002, a chyrhaeddodd tair cyfrol arall ganddi, Caersaint, Ffarwél i Freiburg ac Ymbapuroli, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011, 2014 a 2021. Cyhoeddodd Trysorau Cudd Caernarfon yn 2018 ar y cyd âr ffotograffydd, Richard Outram. Mae Angharad yn byw gydai theulu yng Nghaernarfon ac yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.