This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gruffudd

  • £1.00
  • £5.95
  • ISBN: 9781845270544
  • Awdur: Martin Davis
  • Cyhoeddi Tachwedd 2006
  • Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 134 tudalen

Nofel gyffrous yn adrodd hanes Gruffudd ap Cynan, un o frenhinoedd pwysicaf Gwynedd yn y Canol Oesoedd.

Adolygiad Gwales
Hon yw’r nofel gyntaf mewn cyfres newydd sbon o nofelau yn seiliedig ar fywydau arwyr o hanes Cymru.

Mae’r awdur profiadol Martin Davis, sydd eisoes wedi profi ei hun yn gampwr ar ddweud stori, wedi bod yn astudio hen gyfrol o’r enw Hanes Gruffud Vab Kenan ac wedi creu nofel ddiddorol ar sail ei astudiaeth. Nofel yw hi sy’n disgrifio bywyd cyffrous Gruffudd ap Cynan wrth iddo geisio gwireddu proffwydoliaeth proffwydes o’r enw Tangwystl y byddai’n frenin ar Gymru rhyw ddiwrnod.

Ond nid ar chwarae bach mae dod yn frenin ac mae Martin Davis y storïwr yn manteisio i’r eithaf ar y trafferthion a’r rhwystrau sy’n dod ar draws ymdrechion Gruffudd druan. Rhag difetha’r stori i’r rhai nad ydynt yn gwybod yr hanes dydw i ddim am ddatgelu a fu Gruffudd yn llwyddiannus ai peidio. Y cyfan ddywedaf i yw fod y nofel yn byrlymu gyda brwydrau gwaedlyd, brad dichellgar a chynllwynio diddiwedd heb sôn am gipio a charcharu a dwsinau o weithredoedd creulon.

Er mwyn ychwanegu hyd yn oed rhagor o gyffro i’r stori mae Martin Davis wedi creu brawd a chwaer dychmygol sef Idwal a Gwenffrwd, a thrwy ei ddisgrifiadau o’u bywydau hwy llwyddir i roi darlun difyr i ni o fywyd plant a phobl ifanc y cyfnod.

Er ei bod yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous, tybiaf na fydd darllen y nofel yn waith hawdd i’r mwyafrif. Bydd rhai yn cael yr eirfa yn sialens ar brydiau a’r arddull yn rhy draethodol, a chan fod y nofel yn disgrifio cyfnod mor hir mae nifer fawr o gymeriadau ynddi a llu o ddigwyddiadau amrywiol, rhai y gellid o bosib fod wedi eu hepgor er mwyn tynhau’r stori.

Wedi dweud hynny, bydd y darllenydd aeddfed sy’n mwynhau nofel hanes yn dotio at y disgrifiadau ac wrth ei fodd gyda’r sialens, ac mae’r nofel yn rhoi sail i gyfres bwysig. Edrychaf ymlaen at ddarllen y gweddill.

Gareth William Jones