This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gwen ac Arianrhod

  • £9.99

Dydi symud i ysgol newydd byth yn hawdd; mae'n anoddach fyth pan nad ydach chi'n ffitio i mewn. Digon diflas ydy bywyd wedi bod i Gwen ers iddi symud i Gricieth - mae'r tywydd yn wael, does ganddi ddim ffrindiau, ond yn waeth na dim - mae ganddi ffobia o nofio erbyn hyn. Hiraetha am ei bywyd yng Nghaerdydd, ac yn fwy na hynny, mae hi'n colli ei ffrind gorau, Non.

Gwybodaeth Bellach:
Daw newid byd syfrdanol iddi un diwrnod ar lan y môr wrth iddi gyfarfod Arianrhod, tywysoges Cantre'r Gwaelod. Wrth i'r ddwy ddod i ddeall ei gilydd daw Gwen i werthfawrogi ei chartref newydd a darganfod ei hunanhyder unwaith eto.

Nofel graffeg
Dyma stori am gyfeillgarwch, galar, a'r trafferthion o dyfu i fyny; ond er gwaethaf hyn i gyd gall bywyd fod yn llawn prydferthwch, os ydych chi'n fodlon cymryd cipolwg o dan yr wyneb.

  • ISBN: 9781845278663
  • Cyhoeddi: Ebrill 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 80 tudalen

Adolygiad Arianrhod a Gwen, Lleucu Gwenllian / Gwasg Carreg Gwalch

Hanna Hopwood

Dyma lyfr sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg. Mae’r nofel graffig hon gan Lleucu Gwenllian a Gwasg Carreg Gwalch yn wledd i’r llygad. Cawn ein tywys yn gelfydd drwy hanes Gwen yn gadael Caerdydd a symud i Ogledd Cymru yn dilyn digwyddiad trawmatig. Mae hi’n ei chael hi’n anodd ail-afael yn ei thalent yn y pwll nofio wrth i luniau o golli ei ffrind chwarae fel ffilm yn ei meddwl.

Dyma lle mae’r stori’n dechrau ac yn syth, mae’r darllenydd eisiau gwybod mwy. Mewn dim o dro, rydym yn cwrdd â Heledd a’i ffrindiau, criw sy’n gwneud bywyd yn anodd iawn i Gwen. Er bod Gwen yn canfod dihangfa ar lan y môr, buan y daw llonyddwch ei hencil i ben wrth i’r merched ei darganfod ac ail-ddechrau ar ei bwlian.

Cawn ein tywys drwy’r stori drwy gyfres o luniau arbennig ac ystod o liwiau hyfryd sy’n newid wrth bod y golygfeydd amrywiol yn cael eu cyflwyo. Mae’n dechrau’n lliwgar yn y pwll, gyda phrysurdeb sefyllfa fel hyn i’w deimlo yn y darlun. Heb yr angen am eiriau, mae newid i’r du a’r gwyn gyda thameidiau o liwiau yn dangos ein bod mewn ôl-fflachiadau. Mae’r symud hwn rhwng y du a’r gwyn a’r lliwiau llawn yn dangos gwewyr meddwl Gwen wrth fyw yn y gorffennol ar yr un llaw tra hefyd yn troedio yn y presennol. 

Mae’r lliwiau’n newid eto, yn ddyfnach ac yn gyfoethocach y tro hwn, wrth i ni gwrdd â’r môr-forwyn Arianrhod o dan y dŵr. Dyma ble mae elfen hudolus y llyfr yn dechrau ac mae natur chwaraeus Arianrhod yn caniatâu i ni weld ochr arall o gymeriad Gwen. Dyma ble y mae hi’n cael ymlacio, mwynhau a darganfod hapusrwydd unwaith eto. Er bod Arianrhod yn torri rheolau y wlad o dan y tonnau wrth ddod ag un o’r ‘tir-ddeiliaid’ i’r lle, mae’r ddwy yn mwynhau ymgolli yn nyfnderoedd y môr ac mae hyn yn tanio creadigrwydd Gwen. 

Drwy fraslunio a lliwiau llachar, mae Gwen yn rhoi ei hatgofion hapus ar bapur ac yn cael cyfle i ddechrau prosesu yr hyn sydd wedi digwydd iddi. Mae hwn yn arwain at ryddhau rhywbeth yn ei meddwl sy’n caniatâu iddi serennu unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, nid yw’r cyfan yn fêl i gyd - mae ei rhieni yn pryderi’n ofnadwy amdani, mae’r bwlian yn parhau ac mae’r llyfr yn dod i ben gydag elfen o ddirgelwch. Mae rhwyun mewn het a chlogyn du yn chwilio am Gwen… am beth? Dydyn ni ddim yn siŵr. Ond wrth weld y person yn sefyll ar y clogwyn yn edrych dros y môr, tybed a ydyn nhw’n gwybod fod Gwen wedi dysgu am fyd rhyfeddol Arianrhod a’i ffrindiau? Mae’r cyfan yn ein gadael ni i eisiau dysgu mwy am beth sydd am ddigwydd nesaf! 

Drwy gydol y 74 tudalen, rydym yn cael ein tywys yn sensitif drwy gyfres o emosiynau: galar, tristwch, hapusrwydd, pryder, rhyfeddod… ac mae uniaethu â’r cymeriadau yn hawdd diolch i’r darlunio gwych. Heb fawr ddim geiriau ysgrifenedig, mae’r nofel yn dweud cyfrolau. Bydd yn sicr yn ffordd o gael cynulleidfa ffresh i fwynhau llenyddiaeth Gymraeg, yn ogystal â dod ag elfen newydd i’r rheinny sydd eisoes yn mwynhau beth sydd gan y maes i’w gynnig. Atodiad perffaith i unrhyw silff lyfrau!