This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Cylchgrawn chwarterol 40 tudalen, mewn lliw, yn cynnwys erthyglau ar hanes Cymru yn bennaf, ynghyd ag ambell erthygl sy'n edrych ar hanes rhyngwladol. Bydd ambell stori yn taflu golwg newydd ar bethau sy'n perthyn i'n cyfnod ni. Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Dafydd Tudur o'r Archif Ddarlledu Genedlaethol ynghyd ag ysgrifenwyr ifanc yn eu 20au.
Croeso i rifyn y gwanwyn.
Ers 2023 mae Hanes Byw wedi ymfalchïo yn y cyfle i roi llwyfan i ymchwil hanesyddol gan rai sy’n newydd i’r maes, yn ogystal â haneswyr mwy profiadol. Mae’r enwau ar waelod y tudalen i gyd yn cyfrannu i Hanes Byw am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn – ond melys moes mwy! Os oes gennych syniad ar gyfer erthygl, cysylltwch ar bob cyfrif. Blas y gwanwyn sydd ar ambell erthygl yn y rhifyn hwn: er enghraifft, hanes yr ymrafael rhwng y genhinen a’r genhinen Bedr, fel prif emblem Gŵyl Ddewi – a hanes pencampwriaeth rygbi’r menywod sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 30 y gwanwyn hwn. Eleni hefyd mae’n ganmlwyddiant y Streic Fawr yn 1926, ac edrychwn eto ar y rhesymau am ei methiant. Rhown sylw i hanes y diwydiant ithfaen yn Llŷn, ac i waddol y diwydiannwr mawr o UDA, Andrew Carnegie; awn dros y dŵr i Hwngari, cyn dychwelyd i ‘China’ ym Merthyr wedyn! Mae’r angen i leisio protest yn thema sy’n rhedeg drwy sawl erthygl – gwrthdystio yn erbyn y Rhyfel Mawr yn Aberystwyth, yn erbyn apartheid yn Nulyn, ac yn erbyn sawl annhegwch yng nghefn gwlad gan ffermwyr Cymru. Gobeithiwn felly fod yma rywbeth at ddant pawb – mwynhewch y darllen!