This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Croeso i rifyn y gaeaf. Ymfalchïwn fod pob rhifyn o Hanes Byw yn cynnig llwyfan i gyfranwyr newydd, ond yn rhifyn hwn, mae cymaint â saith o erthyglau gan rai sydd heb gyhoeddi yn y cylchgrawn o’r blaen. Ceir mwy o fanylion amdanynt isod – ac mae lle i fwy o gyfranwyr newydd yn y rhifyn nesaf, wrth gwrs!
Ond ar y llaw arall, ers yr haf, trist yw nodi inni golli dau o’r rhai sydd wedi cyfrannu erthyglau i Hanes Byw yn y gorffennol. Ysgrifennodd Huw Antur am gyfraniad arloesol ei deulu ym maes trydan hydro, tra bod Gwilym Owen wedi cwblhau ei erthygl ddiweddaraf am deulu’r Penrhyn ar gyfer y rhifyn hwn ddyddiau yn unig cyn ei farwolaeth. Mae ein cydymdeimlad dwysaf â’r ddau deulu yn eu profedigaeth.
Yn Hanes Byw y tro hwn, rhown sylw i Catrin o Ferain, Tri Penyberth ac arferion caru ardaloedd y chwareli. Awn o Chernobyl i’r Ynys Las, ac o Ferthyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg i hanner canmlwyddiant Ar Log. Mae yma rywbeth at ddant pawb, gobeithio, a chyda’r Nadolig yn prysur agosáu, os nad ydych wedi dod o hyd i anrheg i bawb o’r teulu, beth am roi tanysgrifiad i Hanes Byw? Mae’r manylion ar y clawr cefn – a mwynhewch y rhifyn hwn!
Cynnwys
2 Cyfraith Hywel ddoe a heddiw Yr Athro Sara Elin Roberts
3 (a 36) Murlun
4 Iolo Morganwg, Taliesin ab Iolo a Merthyr Tudful Malcolm Llywelyn
6 Silesia – yma o hyd Siôn Pennar
8 Cysgod hir Chernobyl Myrddin ap Dafydd
10 Cymru yn oes y Normaniaid Lucie Hobson
13 Cofio’r Beasleys Delyth Prys
16 Y ‘talp o rew’ sy’n gannwyll llygad yr Arlywydd Trump Mared Gwyn
18 Ar Log yn 50 Ifor ap Glyn
20 Ffraeo dros ystad y Penrhyn Gwilym Owen a Peter Foden
22 Penyberth ac MI5: y weithred a’i hadladd yn ffeiliau’r wladwriaeth Gwen Angharad Gruffudd
25 Crafu dan yr Wyneb: Mwnt a Beili, Caernarfon Rhys Mwyn
26 Catrin o Ferain Helen Williams-Ellis
28 Petai Petasai: Ymadawiad yr Arthur arall Dylan Iorwerth
30 Arferion caru yn ardaloedd chwarelyddol Gwynedd Elin Tomos
32 Adolygiadau Carolyn Iorwerth; Mared Llywelyn
34 Y Gair Olaf: Menywod eiconig? Elin Jones