This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Helyntion Hogan Wyllt

  • £7.50
  • £0.00
ISBN: 9781845273729
Mari Jones-Williams
Cyhoeddi Tachwedd 2012
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Caerdydd 1997. A\'i bryd ar antur fwya\'i bywyd a gyrfa yn uchelfannau\'r cyfryngau, mae Ceri\'n gadael fferm y teulu ym Mhenllyn am gyffro\'r brifddinas. Nosweithiau soffistigedig, corff siapus, dillad ffasiynol, dyn perffaith - dyna\'r ddelfryd. Sut fydd realiti\'n cymharu?

Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Mari Williams wedi dychwelyd yno ac adnewyddu hen ffermdy lle mae nawr yn byw gyda’i gŵr, Brendon, eu plant, Efan a Cadi, a\'i chi, Mac. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd cyn hyfforddi fel awdur copi gyda chwmni Golwg Cyf. Bu wedyn yn ysgrifennu yn llawrydd fel colofnydd ac awdur nodwedd i amrywiol gwmnïau a chyhoeddiadau yn cynnwys y Western Mail, Golwg, S4c a BBC Cymru fel Swyddog y Wasg. Mae newydd adael ei swydd Rheolwr Cyfathrebu yn BBC Cymru er mwyn teithio llai ac ysgrifennu mwy.

Gwybodaeth Bellach:
Datgelu dirgelwch yr hogan wyllt
Ewch yn ôl i 1997. Tra roedd Llafur yn disodli\'r Torïaid yn Llundain, a\'r Cymry yn pledleisio yn y refferendwm llwyddiannus i gael senedd i Gymru, roedd unhogan wyllt yn carlamu drwy gyrchfannau Caerdydd yn creu sylw.

Cofnodwyd helyntion yr hogan wyllt honno mewn colofn hynod boblogaidd yng nghylchgrawn Golwg, ond fe’u hysgrifennwyd yn ddienw a nid yw’r awdur erioed wedi datgelu ei hun, tan nawr...

Yn y gyfrol Helyntion Hogan Wyllt mae Mari Jones-Williams yn cael ei datgelu fel yr hogan wyllt. Hi yw awdur y nofel hon sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ac sydd wedi’i seilio yn fras ar y colofnau hynny.

Ymddangosodd yr Hogan Wyllt am y tro cyntaf ar dudalennau Golwg, ar Ionawr 6, 1997. Enillodd ddilyniant ymhlith y darllenwyr gyda\'i helbulon a’i helyntion, oedd gan amlaf yn cynnwys partïon di-ri yng nghyrchfannau’r brifddinas ac argyfyngaucarwriaethol.

“Roedd yr Hogan Wyllt yn gyfuniad o lawer o bobl a llawer o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd. Roedd hi’n grêt gallu adlewyrchu bywyd y cyfnod drwy gyfrwng mor greadigol, tra roedd o’n digwydd. Y bwriad hefo\'r nofel oedd creu rhywbeth bywiog a hwyliog sy\'n teimlo fel sgwrs braf hefo hen ffrind," meddai Mari Jones-Williams, fu’n byw yng Nghaerdydd am ddeuddeg mlynedd cyn dychwelyd i Lanuwchllyn, ei hardal enedigol, yn 2004.

“Roeddwn wedi bod yn trio meddwl ym 1997 pwy oedd awdur colofnau\'r Hogan Wyllt, a phan ddaeth Mari at Wasg Carreg Gwalch gyda\'r syniad am y nofel, roeddwn wedi fynghyffroi yn syth," meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch.

“Yn hollol ddamweiniol, mae’n gylch cyflawn,” meddai Mari, sy’n dychwelyd at ei chyfenw gwreiddiol, Jones-Williams, fel awdur gan bod awdur arall o’r enw Mari Williams. “Mi rois i’r gorau i golofn Hogan Wyllt pan ges i swydd fel Swyddog y Wasg yn BBC Cymru ‘nôl ym 1997, a fy niwrnod swyddogol ola’ hefo’r BBC oedd diwrnod lansio nofel Helyntion Hogan Wyllt.

“O’u darllen bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, yn briod, yn fam i ddau o blant bach ac wedi ryw ymbarchuso ‘chydig, mi ges i fy synnu pa mor feiddgar oedden nhw. Dwi ddim yn cofio gwneud ymdrech i siocio yn fwriadol!"