This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Henriét y Syffrajét

  • £6.99
  • £0.00
  • Henriét y Syffrajét
  • ISBN: 9781845276515
  • Angharad Tomos
  • Cyhoeddi Hydref 2018
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 226 tudalen
Mae'r stori'n mynd â ni i'r carchar, i gell merch ar streic newyn sy'n cael ei gorfodi i dderbyn bwyd drwy diwb drwy'i thrwyn. Awn i ganol cyffro gweithredoedd y Suffrajéts yn Llundain. Ond down hefyd i bentref chwarel yng ngogledd Cymru lle mae dwy o ferched ifanc yr ardal yn cael eu cyffwrdd gan y cyffro a'r syniadau newydd

Tabl Cynnwys:
"Rhain ydi'r dyddiau rydan ni'n byw ynddyn nhw. Nid fi ddewisodd nhw." Hogan beryg ydi Henriét - hi a'i ffrind, Gladys. Maen nhw'n chwarae efo tân, yn erlid Lloyd George, yn herio'r Drefn ac yn cael eu taflu i garchar. PAM? Merched ydyn nhw, a does ganddyn nhw ddim pleidlais. Pa mor bell fyddech chi'n mynd dros yr hyn a gredwch?

Gwybodaeth Bellach:
"Dydw i ddim eisiau dweud y stori..." Dyna eiriau annisgwyl Henriét, prif gymeriad y nofel hon am yr ymgyrch i ennill pleidlais i ferched ychydig dros gan mlynedd yn ôl. Oes, mae disgrifiadau o gam-drin merched yma. Ond, fel y dywed Henriét, mae'n bwysig ein bod yn gwybod - "Dim ond drwy adrodd y stori mae modd i chi ddeall, felly mae'n rhaid i mi fynd ymlaen."