This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Hugh Ellis y Berthfawr

  • £8.50

Selling fast  - 10 left

  • Hugh Ellis y Berthfawr
  • ISBN: 9781845245658
  • Huw Ellis
  • Cyhoeddi: Mai 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 204 tudalen

Prydydd cefn gwlad o Ddyffryn Banwy oedd Hugh Gruffydd Ellis (1865-1952) sy'n cael ei gofio orau am ei ddwy faled yn adrodd hanesion o fewn ei filltir sgwâr, sef 'Cân y Llwynog' a 'Dafad Nantyrhelig'. Roedd yn englynwr adnabyddus ac yn falch o'i grefft fel cynganeddwr.

Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Huw Ellis ar fferm ger Llanfair Caereinion ac mae bellach yn byw yn Abergele. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, dilynodd yrfa yn y sectorau bancio, llywodraeth leol ac addysg uwch. Ei ddiddordebau yw hanes, seiclo a chrwydro.
Gwybodaeth Bellach:
Mae ei gerddi, sy'n amrywiol eu natur, yn cyfleu darlun o ddiwylliant cefn gwlad ac o'r gymdeithas ym Maldwyn mewn un cyfnod penodol o hanes. Ceir cyffyrddiad yma â datblygiadau gwleidyddol, cenedlaetholgar, cymdeithasol, moesegol a chrefyddol yn ystod oes y bardd.
Bu llawer o sôn amdano’n lleol fel storïwr a sgwrsiwr difyr ac roedd y frawdoliaeth ymhlith nythod beirdd Dolanog a Llangadfan yn bwysig iddo. Disgrifiwyd ef fel dyn chwareus a doniol, ond o dan yr wyneb yr oedd ynddo ddwyster dwfn.