This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Llwybr i Ben Draw'r Byd

  • £8.99

Llyfr taith gan actor adnabyddus - felly cyfuniad o'r dieithr a'r cyfarwydd, ac mae hon yn un o deithiau hynotaf Ewrop. Mae'n disgrifio 5 wythnos o gerdded y Camino o'r Pyraneau ar draws gogledd y penrhyn Iberaidd. Epig lawn disgrifiadau campus, sgyrsiau difyr a digon o hiwmor.

I’r hen ddyn mae’r soffa yn le clyd i dreulio’r dyddie, a gwrando ar y cloc mawr yn taro’r oriau. Codi bob hyn a hyn i neud dished o de. Un diwrnod, yn hytrach na mynd am y tecyl, mae’n mynd am y drws ffrynt - a Sbaen a’r Camino Francés. Y bererindod wyth gan cilomedr o ochor Ffrainc o’r Pyrenees i Santiago de Compostela yn Galicia. Gwireddu hen freuddwyd a oedd fel llyngyr yn cnoi ers degawdau. Bant â ni ar Lwybr i Ben Draw’r Byd, ddim i chwilio am unrhyw beth arbennig, dim ond i weld beth a ddaw - y cymeriadau lliwgar a ffrindiau newydd o bedwar ban byd. Heriau corfforol ac emosiynol, a chysylltiad annisgwyl â’r gorffennol. Cythrel o wâc.
Ddewch chi am dro?

  • ISBN: 9781845279981
  • Cyhoeddi: 20 Mawrth 2026
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 148 tudalen