This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Llwybrau Ddoe- Atgofion drwy Ganeuon

  • £8.00
  • £0.00
  • Llwybrau Ddoe- Atgofion drwy Ganeuon
  • ISBN: 9781845277871
  • Tudur Morgan
  • Cyhoeddi: Chwefror 2021
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 120 tudalen

Atgofion drwy ganeuon Tudur Morgan: cyfansoddwr, canwr, cefnleisiwr, cyfeilydd, cyfarwyddwr un o'r cerddorion prysuraf a mwyaf amryddawn yng Nghymru.

Gwybodaeth Bellach: Mewn gyrfa sydd wedi goroesi tri degawd, mae ôl bysedd y Monwysyn hwn ar ddisgiau ac albymau dirifedi ac ar lwyfaniadau cerddorol ledled Cymru a'r tu hwnt. Cydweithiodd gyda bron pawb sydd wedi cyfrannu i'r byd canu poblogaidd Cymraeg. Mae ei gyfraniad yn rhyngwladol ac mae ei stamp ar ganu ysgafn y genedl yn annileadwy.

Bu'n un o'r '4 yn y Bar', mae'n parhau i ganu efo 'Mojo' ac mae wedi cyhoeddi nifer o CDs unigol. Cydweithiodd efo'r Gwyddelod talentog Donal Lunny, Davy Spillane a Keith Donald a chyfeiliodd i'r chwedlonol Ronnie Drew. Rhannodd lwyfan efo'r 'Beach Boys' a 'Take That'.

Perfformiodd mewn gwahanol wyliau gwerin ledled Cymru a'r Alban. Gweithiodd ar niferoedd o CDs, i Sain yn bennaf, ac ymddangosodd yn rheolaidd ar lwyfan y 'Noson Lawen' ar S4C, ar Radio Cymru a Radio 2 a chyfansoddodd arwyddganeuon i gyfresi fel 'Y Bws Gwlad', 'Breuddwyd Pedair', 'Rhyddmau'r Celt' a 'Cadw'r Oed'.

Bydd CD o'r caneuon am ddim gyda phob llyfr