This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Rydyn ni’n Cymry yn hoff o’n bwyd, ond be ydi bwyd Cymreig? Bara lawr a chocos, te bach yn nhŷ Nain, neu fagiaid o jips ar lan y môr?
Mae’r ysgrifau hyn yn dwyn i gof atgofion o fwyd a bwyta, o datws pum munud i gyrris Vesta, yn rhyfeddu at gynnwys gwych a gwallgof rhai o’r llyfrau coginio Cymraeg cynharaf, ac yn dathlu’r berthynas glòs sydd ganddon ni â’r hyn sy’n tyfu yn ein milltir sgwâr.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Ruth Richards yn awdur sy’n ymddiddori yn hanes a diwylliant yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn ygyfrol hwyliog hon, a thrwy gyfrwng atgofion a hen lyfrau coginio, mae’n troi ei sylw at berthynas Cymry’r cyfnod â’r bwyd oedd ar
gael iddynt.
gael iddynt.
- ISBN: 9781845279745
- Cyhoeddi: Hydref 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 150 tudalen
- Iaith: Cymraeg