This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Mae Rhywun yn Gwybod... (Cyfres Dal y Gannwyll)

  • £2.00
  • £3.99
ISBN: 9780863816758
Awdur: Alwyn Gruffydd
Cyhoeddi Rhagfyr 2004
Golygwyd gan Lyn Ebenezer
Fformat: Clawr Meddal, 184 x 124 mm, 148 tudalen

Hanes ymgyrch losgi tai haf Meibion Glyndwr, ymateb cydymdeimladol a gwrthwynebus y cyhoedd, methiant ymdrechion yr heddlu i ddal y llosgwyr a hanes yr achos llys a welodd garcharu Siôn Aubrey Roberts. 32 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Dyma gyfrol hawdd i’w darllen sydd yn trafod Meibion Glyndŵr a’r ‘ymgyrch’ losgi tai haf – yn ystod wyth degau a naw degau’r ganrif ddiwethaf – a gysylltir â’r enw hwnnw. Rhaid ychwanegu ar unwaith fod y gyfrol hefyd yn ymdrin â thanau eraill nad oedd Meibion Glyndŵr – pwy bynnag oedd y rheiny – yn gyfrifol amdanynt. Yn wir, un peth sy’n amlwg yw pa mor aneglur oedd y sefyllfa bryd hynny, nid yn unig i’r heddlu ond hefyd i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’n ddigon posib bod rhyw gorff o unigolion a alwai eu hunain wrth yr enw Meibion Glyndŵr ond mae’r un mor glir bod eraill hefyd wedi bod wrthi’n llosgi tai haf ac eiddo preifat – weithiau am resymau personol yn hytrach nag oherwydd cymhellion gwleidyddol.

Mae’r broliant ar glawr cefn y gyfrol yn honni bod 'llwyddiant ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr yn ddibynnol ar ewyllys da gwerin gwlad'. Ac yna ychwanegir y geiriau hyn: 'Ar lefel y boblogaeth leol, cafodd yr ymgyrch groeso'. Does dim amheuaeth, wrth gwrs, nad oedd llawer o bobl yn sibrwd 'Hwrê!' dan eu gwynt bob tro y clywid am dân arall mewn tŷ haf. Ac mae’n debyg mai ar gyfer y bobl hynny – neu ar gyfer yr ymateb hwnnw – y lluniwyd y gyfrol hon. Mae rhwystredigaeth yr heddlu a’r tactegau cyfrwys a ffiaidd a ddefnyddiwyd ganddynt yn themâu a gyfyd yn gyson drwy’r gyfrol. Ond, mewn gwirionedd, mae’n amheus gen i a ellid cyfiawnhau neu brofi’r gosodiadau a geir yn y broliant. Roedd digon o gondemnio cryf a diffuant ar bob lefel ledled Cymru ar weithgareddau’r llosgwyr. A’r ffaith amdani yw bod yr 'ymgyrch' wedi achosi llawer o ddrwgdeimlad diangen tuag at genedlaetholwyr gwleidyddol.

Bid a fo am hynny, gadewch i ni edrych ar gynnwys y gyfrol. Mae’r broliant yn addo neu’n awgrymu nifer o bethau am y cynnwys, ond ai dyma a gawn mewn gwirionedd? Neilltuir traean cyntaf y gyfrol i restru’r 228 o ymosodiadau a fu ar eiddo yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae rhestr o’r fath yn gyfleus i’r sawl sydd am wneud ymchwil bellach i’r cyfnod, ond peidiwch â disgwyl ffrwyth ymchwil o’r fath yn y gyfrol hon. Ni cheir unrhyw wir ymgais i ddadansoddi cymhellion y llosgwyr na chwaith unrhyw ymdrech i osod y cyfan yn ei gyd-destun hanesyddol. Nid agwedd ddiduedd yr hanesydd proffesiynol a geir yma. Ni cheir trafodaeth gytbwys a diduedd, nac unrhyw ddehongli boddhaol ar y ffactorau cymdeithasol-economaidd a barodd i gynifer o unigolion gymryd pethau i’w dwylo eu hunain. Newyddiadurwr o’r teip cyfoes sydd yn ysgrifennu – nid hanesydd wrth reddf. I’r graddau y ceir dadansoddi neu ddehongli o gwbl, mae’r cyfan yn simplistig, yn unochrog ac yn arwynebol. Erthygl estynedig yw’r gyfrol, a bydd yn apelio at ddarllenwyr y mae emosiwn yn bwysicach iddynt na rheswm.

Dafydd Andrews