This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Dilyniant i Meirw Byw. Mwy o hanes y teulu a gafodd ei chwalu gan eu hymweliad i Annwn, wrth iddynt ddygymod â chanlyniadau'r gwrthdaro mawr rhwng Rhodri ac Arawn. Gydag un o'r teulu ar goll a'r lleill ar wasgar, mae bywyd yn anodd iddynt i gyd, wrth i bawb geisio dygymod a'u sefyllfa newydd, a'r boen o golli Idris yn eu llethu.
Bywgraffiad Awdur
Yn wreiddiol o Ddolgellau mae Rolant erbyn hyn yn byw gyda'i deulu ym Mro Morgannwg. Dyma ei drydedd nofel.
Adolygiadau
Flwyddyn gron ar ôl i Idris gael ei gipio, mae ei deulu ar chwâl. Yn dilyn angladd Yncl Crad maen nhw’n sylweddoli bod rhaid iddyn nhw gydweithio os oes unrhyw obaith o'i achub, ond gan fod pawb yn casáu ei gilydd, fydd hynny ddim yn hawdd.
Mae pethau yn newid yng Nghymru: hen rymoedd yn defnyddio technoleg newydd i ddial, a hen elyn yn paratoi i reoli... ac mae rhywun yn lladd y Meirw Byw.
Dilyniant tywyllach a mwy anturus i Meirw Byw yng nghwmni hen ffrindiau a gelynion newydd.
- Fformat: Clawr Meddal
- ISBN: 9781845248147
- Tudalennau: 230
- Dyddiad Cyhoeddi: 23/10/2026
- Oedran: 12+
- Pynciau: Ffuglen a straeon gwir i blant / pobl ifanc yn eu harddegau, Plant, Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Addysgol
- Maint: 129 (w) x 198 (h) x 12 (d) mm