This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Nofel ddystopaidd wedi’i gosod yn yr Unol Daleithiau yn y dyfodol agos, yn dilyn merched ifanc sy’n gorfod dilyn trywydd tanddaearol i fynnu’r hawl i ddewis beth sy’n digwydd i’w cyrff eu hunain.
Yn Unol Daleithiau America yn y dyfodol agos, mae bywyd yn mynd yn gynyddol anoddach. Mae’r Wladwriaeth yn dilyn pob symudiad, a hawliau menywod yn diflannu, hyd yn oed dros eu cyrff eu hunain. Wrth iddiganfod ei hun mewn sefyllfa argyfyngus, mae’n rhaid i un ferch ifanc roi ei ffawd yn nwylo criw o ymgyrchwyr tanddaearol...
Awdur: Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a a enillodd wobr Tir Na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn y Gymraeg, hefyd yn 2020, a’r dilyniant, Mwy o Helynt, yn 2023. Cyhoeddwyd Chwerwfelys, dilyniant i Mudferwi, yn 2021, a Curiad Gwag yn 2022. Mae cyfieithiad o Curiad Gwag, Rock on the Road, wedi ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y dilyniant, Diwedd y Gân, yng ngwanwyn 2025.
- ISBN: 9781845279929
- Awdur: Rebecca Roberts