This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Naill yng Ngwlad y Llall, Y

  • £9.00
  • £0.00
  • Naill yng Ngwlad y Llall, Y - Taith Gwyddel yng Nghymru; Taith Cymry yn Iwerddon
  • ISBN: 9781845278519
  • Angharad Tomos
  • Cyhoeddi: Mai 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 200 tudalen

Yn yr 1930au, gwnaed dwy daith mewn dwy wlad - a dyna ddeunydd Y Naill yng Ngwlad y Llall. Am y tro cyntaf, mae'r ddwy daith yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd. Mae'r dulliau o deithio ac o dderbyn caredigrwydd pobl y wlad yn ddiddorol, ac mae argraffiadau'r naill o wlad y llall yn berthnasol iawn o hyd.

Gwybodaeth Bellach:

Cyhoeddodd y Gwyddel Seosamh Mac Grianna gyfrol Wyddeleg am ei ymweliad am Gymru - ac mae'n cael ei chyfri'n glasur yn yr iaith honno. Wrth ddarllen cyfieithiad Saesneg Michael O hAodha ohoni, atgoffodd hynny Angharad Tomos o gyfrol Gymraeg oedd yn ei meddiant: Yn Haf 1939, aeth fy nhaid ar daith feics efo'i blant i Iwerddon am dair wythnos gan gadw dyddiadur o'r daith.'