This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Vaughan. Cymeriad a hanner. Cenedlaetholwr. Newyddiadurwr.
Showman. Un o gymeriadau mwyaf lliwgar y wasg a darlledu Cymraeg
yn ein dyddiau ni. Tynnu coes a phryfocio hwyliog oedd rhan fawr o
apêl ei gyfresi teledu, a byddai pob cyfarfyddiad efo fo yn ‘ddigwyddiad’
dramatig llawn straeon a chwerthin. Roedd o’n fardd hefyd, a llawer o’i
gerddi’n llifeiriant diatal o farn a rhagfarn. Doedd o ddim ofn ei dweud
hi fel yr oedd hi. Mi ges i bleser mawr yn dilyn ei siwrnai ddifyr, a
dethol peth o’i waith ar gyfer y gyfrol hon. – Alun Ffred Jones
“Mae ganddo’r ddawn newyddiadurol i beri i rywun foeli’i glustiau i
wrando, ac eto mae’n dreiddgar a sylweddol yr un pryd ... mae’n iechyd
gwrando arno’n mynd trwy’i bethau heb oedi unwaith i ystrydebu’n
ddiflas.” – John Rowlands, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod
Genedlaethol Abertawe 1982
- ISBN: 9781845279752
- Cyhoeddi: Tachwedd 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 250 tudalen
- Iaith: Cymraeg