This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Oes Eos

  • £8.00
  • £0.00
  • Oes Eos
  • Daniel Davies
  • ISBN: 9781845278021
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2021
  • Fformat: Clawr Meddal, 200x128 mm, 222 tudalen

Nofel gomig sy'n dilyn hynt a helynt Eos Dyfed - sef y bardd Dafydd ap Gwilym, ei was, Wil, a'u cyfoedion yn yr 1340au gan ganolbwyntio ar ymdrechion carwriaethol Dafydd i ennill calon Morfudd, a pherthynas danllyd Wil a Dyddgu.

Bywgraffiad Awdur:

Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth. Ymysg ei lyfrau mae Twist ar Ugain (2006), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois (2016) ac Arwyr (2018). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn 2011, a daeth Pelé, Gerson ar Angel (2001), Gwylliaid Glynd?r (2007) ac Yr Eumenides (2017) yn agos i'r brig yn yr un gystadleuaeth.

Gwybodaeth Bellach:

Yn ail ran fy hunangofiant byddaf yn rhannu mwy o fy nghyfrinachau ynghylch sut y gwnes i

oroesi pandemig mwyaf angheuol Ewrop

greur sioe gerdd gyntaf (ymddiheuriadau)

ddefnyddio Crair Sanctaidd i greu gwyrthiau di-ri

ysgrifennu fersiwn derfynol y Mabinogi

daro g?ydd yn anymwybodol

Rydw i hefyd yn rhannu fy marn am farddoniaeth, athroniaeth, cariad ac o, ie sut y deuthum yn berchennog ar y Greal Sanctaidd.

Gorau po gyntaf i hwn gael ei gladdu. Ond nid yn ein mynwent ni. Llywelyn Fychan, Abad Ystrad Fflur

Llyfr eithaf boddhaol. Lluniau digon derbyniol. Madog Benfras, bardd

Yw e yma o hyd? Iwan ap Dafydd ap Robert, Datgeiniad.

Dyma ddilyniant i Ceiliog Dandi, rhan gyntaf hunangofiant ffuglennol Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd yn 2020.