This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
**CYFLE ARBENNIG. DIM OND AR GAEL YM MIS TACHWEDD 2026**
Bydd pob bocs yn cynnwys o leia bedwar llyfr wedi'u dewis yn arbennig ar gyfer eich plentyn, yn llyfrau newydd a chlasuron o'r archif. Bydd llyfr ar gyfer pob wythnos ym mis Rhagfyr, pob un wedi'i lapio mewn papur Nadoligaidd, a phob un yn syrpreis nes i'ch plentyn agor y pecyn!
Yn ogystal, bydd y bocs yn cynnwys bag arbennig i ddal y cyfan, ac amrywiaeth o lyfrnodau a sticeri ar hap.
Sut i archebu:
1. Ewch i www.carreg-gwalch.cymru a chwilio am Pecyn Darllen Dolig.
2. Ar ôl talu, gyrrwch neges i ni drwy Facebook neu Instagram efo'ch manylion: - enw a cyfeiriad, - oed eich plentyn - diddordebau eich plentyn
3. (a'u henw, os ydych chi am i ni ei yrru'n syth iddyn nhw.)
Archebwch rŵan (dolen) 🎄🎄🎄📖