This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Perthyn Dim I'n Teulu Ni

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Mai 2002
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 64 tudalen

Casgliad difyr o 42 o gerddi amrywiol gan 18 bardd, gyda lluniau doniol yn portreadu sefyllfaoedd digri a thyner yn ymwneud ag amrywiol aelodau'r teulu, o'r hynaf i'r ieuengaf; i blant 7-11 oed. Dros 40 o luniau du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Does yr un teulu’n deulu hollol normal. Yn y gyfrol hon o gerddi gan wahanol feirdd o dan olygyddiaeth Myrddin ap Dafydd, fe gawn olwg ar y gwyllt a’r gwirion, y twp a’r gwallgo. Prif ogoniant y gyfrol hon, fel y cyfrolau o’i blaen, ydi ei bod yn mynd yn syth i fyd y plant. Mae pob plentyn yn gallu uniaethu efo o leiaf rhai o gerddi’r gyfrol hon, a dyna’r allwedd i’w llwyddiant. Does dim angen athrawon na rhieni i ‘egluro’ yn y fan hon, does angen dim ond dychymyg i werthfawrogi’r cerddi.

Mae hurtrwydd gwych Dewi Pws i’w weld unwaith eto, crefft Dorothy Jones, syniadau Myrddin ap Dafydd a llawer, llawer mwy. Mynd â ni i fyd y plant maen nhw fel y dywedais i, a diolch iddyn nhw a’r beirdd eraill am wneud hynny.

Tudur Dylan Jones