This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae llyfr arbennig iawn yn cael ei gyhoeddi y mis hwn: llyfr sydd wedi’i ysgrifennu gan ddegau o awduron o bob rhan o Gymru! Mae Positifrwydd Pinc: Cymru drwy Lygaid Merched y Wawr yn deillio o syniad gan Bethan Picton-Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, oedd am greu llawlyfr cyfleus i bobl i bori drwyddo a’i gario yn y car; llyfr sy’n tynnu ar wybodaeth eang aelodau’r mudiad ledled Cymru am eu hardaloedd.
Medd Bethan, ‘Roeddwn am greu adnodd fyddai’n ddefnyddiol i aelodau’r mudiad yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol; adnodd i oroesi fy llywyddiaeth innau. Rydyn ni i gyd yn hoff o deithio o amgylch Cymru – gobeithio y bydd y llyfr hwn yn gydymaith hwylus.’
Yn y gyfrol mae pennod gan bob un o 13 o ranbarthau Merched y Wawr, yn cyflwyno hanes a chwedlau lleol, teithiau cerdded, atyniadau lleol a ryseitiau. Mae yma hefyd flas ar dafodiaith a dywediadau unigryw’r rhanbarthau.
Bydd yr elw o werthiant y llyfr yn mynd i Ymchwil Canser Cymru, yr elusen mae Bethan wedi dewis ei chefnogi drwy gydol cyfnod ei llywyddiaeth, a gwaith
Merched y Wawr. Mae’r gyfrol wedi’i henwi ar ôl yr ymgyrch codi arian – ymgyrch sydd wedi gweld aelodau Merched y Wawr yn gwisgo pinc â balchder er mwyn cefnogi’r achos.
‘Rwy’n falch iawn fod y llyfr yn cael ei gyhoeddi, ac yn falch fod y rhan fwyaf o’r elw’n mynd tuag at waith gwerthfawr Ymchwil Canser Cymru,’ eglura Bethan. ‘Mae hon wedi bod yn daith emosiynol iawn i mi yn bersonol, ac mae’n golygu cymaint cael gweld y syniad hwn yn dwyn ffrwyth. Hoffwn ddiolch o waelod calon i Meinir a staff y swyddfa, sydd wedi cydlynu’r cyfan, i bob un o ranbarthau Merched y Wawr ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn, ac i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, eu hegni a’u cefnogaeth i wireddu’r fenter. Bydd y llyfr yn siŵr o fod yn anrheg Nadolig ystyrlon ac arbennig.’
Yn cefnogi Bethan mae Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Genedlaethol Merched y Wawr. ‘Mae hi wedi bod yn fraint cydweithio â Gwasg Carreg Gwalch i gyhoeddi’r llyfr arbennig hwn – y trydydd llyfr i ni ei gyhoeddi gyda’r wasg,’ medd Tegwen. ‘Rwy’n dychmygu gweld y gyfrol hon yn teithio ar draws Cymru, gyda phobl yn cael mwynhad o ddod i adnabod ein gwlad trwy lygaid Merched y Wawr. Diolch i’r holl aelodau sy’n ysbrydoli ein gwaith yn ddyddiol.’
Dyma gipolwg ar Gymru drwy lygaid aelodau 13 rhanbarth Merched y Wawr: llawlyfr defnyddiol i bawb sy’n caru Cymru. Cewch yma gip ar hanes a threftadaeth,
chwedlau, teithiau cerdded, tafodiaith a ryseitiau o bob cwr o’r wlad: yr union beth i’w gadw yn y car i bori trwyddo wrth i chi grwydro ar hyd a lled ein gwlad.
Mae geirfa yn y cefn ar gyfer siaradwyr newydd.
Mae’r elw o werthiant y gyfrol hon yn mynd i Ymchwil Canser Cymru a Merched y Wawr.
- Iaith: Cymraeg
- Fformat: Clawr Meddal
- ISBN: 9781845246464
- Tudalennau: 170
- Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2026