This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Pwnc Llosg

  • £9.00
  • £0.00
  • Awdur: Myfanwy Alexander
  • ISBN: 9781845275617
  • Cyhoeddi Ebrill 2016
  • Fformat: clawr meddal, 198x128mmm, 396 tudalen

Caiff corff Heulwen Breeze-Evans, ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiadau\'r Cynulliad ei ddarganfod yn ei swyddfa yn y Trallwng, a thasg yr Arolygydd Daf Dafis yw ymchwilio i\'w llofruddiaeth.  Mae Heulwen yn un o bileri\'r gymuned, a byddai\'n haws i Daf ddarganfod rhywun heb gymhelliad i\'w lladd.

Bywgraffiad Awdur:

Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion.  Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan.  Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi \'The LL Files\' i Radio Wales yn 1999.  Hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4.  Cyhoeddwyd ei nofer gyntaf, \'A Oes Heddwas?\', yn 2015.