This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Rhedeg yn Gynt na'r Cleddyfau
- ISBN: 9781845278205
- Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi: Mai 2021
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 214 tudalen
Mae'n gyfnod terfysgoedd Beca. Mae Dyffryn Tywi lleoliad y nofel hon yn ferw gwyllt yn ystod haf 1843. Mae pobl ifanc Tafarn y Wawr, Llangadog yng nghanol y frwydr. Ond mae'n rhaid iddyn nhw wrth gynghorion rhedeg Mari Lee, y sipsi . . .
Gwybodaeth Bellach:
MAE'R DRAG?NS AR HEWLYDD SIR GAERFYRDDIN! Y rhain yw'r marchogion gyda'r cleddyfau hir, bwaog a wnaeth gymaint o lanast ar fyddin Napoleon ym mrwydr Waterloo. Does dim yn fwy brawychus na chlywed carnau berfeddion nos, gan wybod na fyddai trugaredd i unrhyw un a safai yn eu ffordd.
Ond byddin wahanol iawn oedd eu 'gelynion' y tro hwn. Byddin o ffermwyr a chrefftwyr a gwerinwyr gwledig wedi'u harfogi â bwyeill a llifiau ac yn gwisgo dillad merched . . .