This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Geiriau sy'n gerddi ac yn ganeuon sy'n y casgliad hwn.
Mae'r rhan fwyaf yn fyr a chryno - ond yn cynnig cyfle i ymestyn at feysydd ehangach.
mae amrywiaeth o themâu sy'n berthnasol i ddatblygiad ein pobl ifanc yma - o berthynas pobl a'i gilydd i wrthdaro yn y byd; o ddyfodol y cynefin i ddarluniau o hanes Cymru.
ar ymyl y ddalen, mae ambell air a all fod yn anghyfarwydd yn cael ei esbonio. O dan bron bob cerdd, mae cyflwyniad gan y bardd.
Mewn byd sy'n rhemp o gasineb a dioddefaint, cyd-deimlad yw'r thema ganolog.
"Wrth ymweld a nifer o ysgolion dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld sut mae barddoniaeth yn medru tanio dychymyg plant a phobl ifanc, ac agor drysau iddyn nhw i weld y byd drwy sbectol wahanol. Gobeithio y bydd y gyfrol hon yn agor y gorwelion"
Myrddin ap Dafydd
- ISBN: 9781845248161
- Awdur: Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi: Ebrill 2026
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 130 tudalen