This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Rhywle Fel Hyn

  • £8.00
  • £0.00
  • Rhywle Fel Hyn
  • ISBN: 9781845278014
  • Dafydd Iwan
  • Cyhoeddi: Ebrill 2021
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 120 tudalen

Rydyn ni wedi clywed rhai o ganeuon Dafydd Iwan ers dros hanner canrif. Mae'r geiriau a'r alawon mor gyfarwydd. Maent yn rhan o fywyd pob Cymro gwerth ei halen. Eto, mae rhywbeth newydd i'w ddysgu am bob cân.

Gwybodaeth Bellach:

Trodd rhai o'i ganeuon yn anthemau. Clywir Yma o Hyd yn rheolaidd ar Barc y Strade. Fe'u clywyd hefyd mewn man mor annisgwyl ag uffern maes y gad yn Kosovo.

Yn ei ganeuon gwleidyddol, mae'n parhau swyddogaeth yr hen faledwyr stryd a ffair. Mae rhai o'i ganeuon serch bellach yn ganeuon gwerin ein hoes. Yn ei ganeuon dychan, mae'n pontio Jac Glan y Gors a Harri Webb. Mae'n oesol ac yn gyfoes yr un pryd.

Yn y gyfrol hon mae'n datgelu'r hanesion y tu ôl i gyfansoddi nifer o'i ganeuon, rhai'n adnabyddus, eraill yn llai cyfarwydd, Dioddefodd o'i unplygrwydd fel Cymro ac nid yw'n hepgor ambell awr ddu yn ei fywyd. Mae'i onestrwydd yn disgleirio drwy'r cyfan. O bori drwy'r penodau dadlennol hyn cewch ail-fywr caneuon yn ogystal â darllen rhwng y llinellau.