This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Rowlio-Powlio a Sboncio-Sgipio (Gwalch Balch: 7)

  • £3.99
  • £0.00
  • ISBN: 9781845271138
  • Awdur: Rose Impey
  • Cyhoeddi Mai 2007
  • Darluniwyd gan Pricilla Lamont
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x128 mm, 64 tudalen

Dwy stori werin: un am Sgonsan Fawr sy'n gwrthod cael ei bwyta, a'r llall am hen Grochan Deudroed sy'n dod â lwc dda i'w berchenogion. Addasiad o Runaway Cakes and Skipalong Pots. Addas i ddarllenwyr 7-9 oed.

Adolygiad Gwales
Dwy stori werin sydd yma, a’r ddwy yn llawer o hwyl i’w darllen. Ceir ‘Y Sgonsan Fawr’ yn gyntaf, fersiwn o chwedl enwog y Dyn Bach Sinsir. Er mawr syndod, y bachgen bach sydd wrthi yn goruchwylio’r pobi pan mae clamp o sgonsen yn neidio allan o’r ffwrn (‘dydi sgons ddim fod i ddianc!’) ac yn rowlio-powlio nerth ei thraed bach, gyda chriw mawr o gymeriadau llwglyd ar ei hôl. Dydi’r dynion ffos na’r bachgen bach, na hyd yn oed y blaidd sobor o sarrug, yn gallu ei dal. Ond beth am yr hen lwynog cyfrwys sy’n edrych mor ddiog ac mor gysglyd?

Yn ail, ceir stori am grochan hud sy’n newid byd hen ŵr a hen wraig dlawd a thrist, ac yn troi bywyd hen gybydd cas tu chwith allan yn y broses. Crochan bach bywiog ydy hwn sydd byth yn llonydd, ac yn amlwg yn mwynhau ei ddrygioni’n fawr iawn. Fel ‘Y Sgonsan Fawr’, mae’r stori hon yn hawdd i’w darllen am ei bod yn ailadrodd geiriau a phenillion yn y ffordd draddodiadol; byddai’r gyfrol yn addas iawn i’w darllen yn uchel i blant bach hefyd. Mae addasiad Emily Huws yn swnio’n naturiol iawn, ac mae lluniau gwych Priscilla Lamont yn dod â’r cymeriadau'n fyw.

Mary-Ann Constantine a Thomas Huw (7 oed)